O ganlyniad i 'ddod allan' wrth rieni, teulu neu ffrindiau, gall pobl ifanc LHD gael eu gwrthod gyfangwbl neu yn rhannol gan eu teulu genedigol neu diarddel o'r cartref teuluol (O'Connor a Malloy 2001, Weeks et al. 2001) Mae pobl ifanc un ar bymtheg a dwy ar bymtheg oed yn arbennig o agored i niwed pan nad oes ganddynt fodd ariannol annibynnol, na mynediad at fudd-daliadau nawdd cymdeithasol.
Darganfu tystiolaeth o'r Arolwg Anghenion Cartrefi LHD (Spark yn y wasg) o leiaf un myfyriwr a oedd yn rhannu tŷ, gyda myfyrwyr dieithr cyn hynny, a ddaeth yn ddigartref pan fu'n rhaid iddo adael o achos aflonyddu homoffobaidd. Mae Rivers a Taulke-Johnson (2002), hefyd yn disgrifio aflonyddu yn erbyn myfyrwyr LHD yn byw mewn Neuaddau Preswyl, gan arwain at argyfwng cartrefi.
Pan fo pobl LHD yn ddigartref neu mewn argyfwng cartref ac yn gwneud cais am gymorth, mae ymchwil yn dangos enghreifftiau o erlidigaeth pellach gan ddarparwyr a chlientiaid eraill yn sgîl ail-gartrefu heb fod yn sensitif i'w hanghenion (O'Connor and Malloy 2001, Spark 2005, yn y wasg, Shelter 2005).
Mae Stonewall Cymru yn galw am weithredu 'polisïau dosbarthiad sensitif' ar gyfer pobl LHD. Yn fwy na hynny, y dylai darparwyr gwasanaethau mewn awdurdodau lleol neu gymdeithasau tai fedru sicrhau nad yw pobl LHD sy'n agored i niwed yn cael eu symud allan o sefyllfa niweidiol i mewn i lety lle mae'n debygol y bydd yr aflonyddu yn digwydd eto.
Mae angen am lety penodol LHD, ac opsiwn i fenywod ifanc lesbiaidd gael eu cartrefu mewn llety menywod.
Dylai landlordiaid gymryd camau i sicrhau bod pobl LHD yn teimlo yn ddiogel mewn ardaloedd cymunedol cartrefi sy'n cael eu rhannu, yn ogystal ag yn eu hystafelloedd eu hunain. Rhaid rhoi sicrwydd i bobl LHD y bydd cwynion am driniaeth homoffobaidd yn cael eu cymryd o ddifrif , a rhaid i bobl ifanc LHD deimlo yn hyderus wrth wneud cwyn, gan wybod y gellid cynnig ail-gartrefu.
Llyfryddiaeth
O'Connor, W. a Malloy, D. (2001) ''Hidden in Plain Sight": Homelessness Amongst Lesbian and Gay Youth, London: National Centre for Social Research
ISBN: 0904607798
Rivers, I. & Taulke-Johnson, R.A. (2002) Listening to lesbian, gay and bisexual students on campus: Experiences of living in university accommodation, Journal of institutional Research, 11 (2), pp. 14-23.
Weeks, J, Donovan, C. a Heaphy, B. (2001) Same Sex Intimacies and other life experiments, London: Taylor and Francis
Sylwadau am y dudalen