Termau Gwell ar gyfer eu Defnyddio mewn Adroddiadau Cyfryngau

Agenda hoyw/cyfunrywiol: Term homoffobaidd a ddefnyddir i ddifenwi y mudiad cydraddoldeb LHD. Mae'n awgrymu cynllwyn sinistr er mwyn hybu 'cyfunrywioldeb' tra'n bygwth yr 'arfer' o gymdeithas heterorywiol.
Defnyddiwch: mudiad cydraddoldeb lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD).

Cyfunrywiol: Yn cael ei ystyried gan rhai yn y gymuned LHD i fod yn derm dirmygus a sarhaus. Mae'n tarddu o ddisgrifiad meddygol pan ystyriwyd atyniad / perthynas o'r un rhyw yn salwch meddwl.
Defnyddiwch: hoyw, lesbiad, dyn/dynes hoyw, deurywiol, dyn/menyw deurywiol neu yr acronym LHD (lesbiaidd, hoyw a deurywiol).

Ffordd o fyw hoyw/cyfunrywiol: term a ddefnyddir i ddifenwi bywydau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae'n anwybyddu amrywiaeth o fewn y gymuned LHD, ac yn diffinio pobl LHD wrth eu rhywioldeb yn unig.
Defnyddiwch: Cymuned / pobl lesbiaidd,hoyw a deurywiol, neu defnyddiwch yr acronym LHD.

Hawliau arbennig: Yn aml yn cael ei ddefnyddio gan y rhai heb ddealltwriaeth o faterion cydraddoldeb er mwyn awgrymu ffafriaeth i grwpiau dan anfantais gan drefn cymdeithas ac economi.
Defnyddiwch: hawliau cyfartal, triniaeth cyfartal, amddiffyniad cyfartal neu cydraddoldeb ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol (LHD).


Hoffter rhywiol: Defnyddiwyd yr ymadrodd hwn er mwyn awgrymu mai dewis yw bod yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol, rhywbeth y dylai pobl LHD ei 'ddad-ddewis'.
Defnyddiwch: cyfeiriadedd rhywiol

Hoyw: Ymadrodd cyffredinol am bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae'n well osgoi defnyddio'r gair hwn ar gyfer bob person LHD gan y gall neilltuo pobl lesbiaidd a deurywiol.
Defnyddiwch: Lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol, neu'r acronym LHD.

Pwyntiau i'w hystyried:

  • Mae angen osgoi cysylltu pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol gydag anfoesoldeb, moesoldeb amheus, a pedoffilia a chamdrin plant. Defnyddir y fath gysylltiadau er mwyn awgrymu bod pobl LHD yn fygythiad i gymdeithas. Dylid eu defnyddio o fewn dyfyniad yn unig er mwyn dangos rhagfarn y person sydd yn siarad.
  • Pan yn ceisio cydbwyso eich erthygl rhaid osgoi defnyddio'r un hen drafodaeth o blaid ac yn erbyn bod yn hoyw. Mae llawer o amrywiaeth barn a phrofiadau o fewn y gymuned LHD. Gall Gwyliwch Allan ddarparu manylion cyswllt ar gyfer amrywiaeth o bobl a sefydliadau LHD.

Gellir dod o hyd i eiriadur cynhwysfawr o dermau cydraddoldeb yma.


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth