Geiriadur Defnydd Derbyniol

Yma ceir geiriadur cryno, nid un cynhywysfawr, o dermau derbyniol cydraddoldeb.

Agenda hoyw/cyfunrywiol: Term homoffobaidd a ddefnyddir i ddifenwi y mudiad cydraddoldeb LHD. Mae'n awgrymu cynllwyn sinistr er mwyn hybu 'cyfunrywioldeb' tra'n bygwth yr 'arfer' o gymdeithas heterorywiol.

Amrywiaeth: Y gwahaniaeth mewn gwerthoedd, agweddau, gogwydd ddiwylliannol, credoau, cefndir ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau bywyd ar gyfer bob unigolyn mewn unrhyw grŵp o bobl.

Cyfeiriadedd Rhywiol: y term cywir i ddisgrifio cyfeiriadedd rhywiol person tuag at rhywun o'r un rhyw, neu'r rhyw arall.

Cyfunrywiol: Yn cael ei ystyried gan rai yn y gymuned LHD fel ymadrodd dilornus a sarhaus. Fe'i ddefnyddiwyd pan ystyriwyd atyniad/perthynas o'r un rhyw fel afiechyd meddwl. Defnyddiwch hoyw, lesbiaidd, dyn/menyw hoyw, deurywiol, dyn/menyw deurywiol neu'r acronym LHD (lesbiaidd, hoyw a deurywiol).

Deurywiol: person sydd â chyfeiriadedd rhywiol tuag at ddynion a menywod

Dyn hoyw: dyn sydd â chyfeiriadedd rhywiol tuag at ddynion eraill.

Dod Allan: Pobl sydd yn cydnabod eu hunaniaeth rhywiol i'w hunain, ac yna yn dweud wrth eraill. Mae datgelu eich rhywioldeb yn broses gydol oes.

Ffordd o fyw hoyw/cyfunrywiol: term a ddefnyddir i ddifenwi bywydau pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae'n anwybyddu amrywiaeth o fewn y gymuned LHD, ac yn diffinio pobl LHD wrth eu rhywioldeb yn unig.

Heterorywiaethol: Agwedd sydd yn cymryd yn ganiataol mai bod yn heterorywiol yw'r unig hunaniaeth rhywiol dilys, a gwneud cynnyrch, polisi neu weithredu ar y sail hwn.

Hiliaeth: Hiliaeth yw pan fo person yn dal barn neu agwedd bod pobl o hil, grŵp ethnig neu liw croen gwahanol iddynt eu hunain yn israddol yn feiolegol, deallusol neu gorfforol.

Homoffobia: yn llythrennol yn cael ei ddiffinio fel ofn 'y llall'. Mae credoau a gweithredoedd pobl sydd yn dal yr agweddau hyn ac yn gweithredu arnynt wedi'u seilio ar gasineb, neu anoddefgarwch, a/neu gwrthodiad i gydnabod hawliau cyfartal unrhyw bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

Hoyw: Term cyffredinol am bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Mae'n well osgoi defnyddio y gair hwn er mwyn disgrifio bob person LHD gan y gall neilltuo lesbiaid a phobl deurywiol.

Hunaniaeth Rhyw: Hunan-adnabyddiaeth person o fod yn wryw neu fenyw.

Lesbiad: menyw sydd â chyfeiriadedd rhywiol tuag at fenyw arall.

LHD: Acronym derbyniol am bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol.

LHDT: Acronym derbyniol am bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a trawsrywiol, ar gyfer materion polisi.

Newid Rhyw: Proses feddygol pan fo unigolyn yn cymryd triniaeth feddygol er mwyn galluogi pobl trawsrywiol i newid eu cyrff i gydfynd gyda'u hunaniaeth rhyw.

Outing: Cyhoeddi rhywioldeb rhywun arall yn gyhoeddus heb eu caniatad. Gall person lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol 'ddod allan' eu hunain.

Partneriaeth Sifil: Cydnabyddiaeth cyfreithiol perthynas o'r un rhyw. Nid yw'n 'briodas' yn ystyr crefyddol y gair, ond mae'n rhoi yr un hawliau a chyfrifoldebau cyfreithiol i gyplau lesbiaidd a hoyw ag sydd gan barau priod heterorywiol.

Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig: pobl o dras neu wlad, a all fod yn ddu neu beidio, ond sydd yn ystadegol ac yn weladwy yn llai o ran nifer na'r mwyafrif gwyn o'r boblogaeth yn lleol neu yn genedlaethol.
Cydnabyddir y term 'du' fel disgrifiad cadarnhaol holl-gynhwysol ar gyfer pobl nad sy'n wyn. Nid yw cyfeirio at bobl fel duon yn sarhaus er bod rhai, yn arbennig pobl hŷn, yn parhau i ddefnyddio y term 'lliw' gan feddwl nad ydyw mor llym. Bydd mwyafrif pobl duon bellach yn gweld y term 'lliw' fel un sarhaus.

Rhagfarn: mae gan nifer o bobl ragfarnau neu anhoffter bychan o bobl neu grwpiau. Serch hynny, mae bod â rhagfarn yn erbyn person neu bobl yn ddifrifol iawn os yw'r rhagfarn hynny yn effeithio ar y ffordd mae'r person hwnnw yn cael ei drin. Pan fo barn rhagfarnllyd yn cael ei drosglwyddo i weithred mae'n dod yn weithred o gamwahaniaethu.

Rhwystrau Anweledig: Agweddau a'u rhagdybiaethau, arferion a gwerthoedd traddodiadol sydd yn rhwystro grymuso/cyfranogiad llawn person mewn cymdeithas.

Rhywedd: Cysyniad sydd yn cyfeirio at y gwahaniaethau cymdeithasol rhwng dynion a menywod sydd wedi cael eu dysgu, sydd yn newid dros amser ac sydd yn amrywiol iawn o fewn, a rhwng, diwylliannau.

Rhyw hoyw: term dirmygus a ddefnyddir i ddiffinio dynion hoyw wrth y rhyw y maent yn ei gael yn unig, gan anwybyddu agweddau emosiynol bod yn hoyw. Yn aml yn cael ei ddefnyddio gan y cyfryngau er mwyn awgrymu rhywfaint o aflendid mewn stori.

Trawsryweddol:  term cyffredinol am bobl trawsrywiol neu sy'n trawswisgo. Yn fwy arbennig gall gyfeirio at rywun sy'n profi 'anesmwythder rhyw' rhwng rhyw eu corff a syniad cymdeithas o rôl rhyw. Gall hefyd gyfeirio at rywun sydd yn 'chwarae' yn ymwybodol gydag arferion rôl rhyw. Gall person trawsryweddol ddewis newid eu cyrff gyda therapi hormonau neu lawfeddygaeth gosmetig neu beidio.

Trawsrywiol: term hŷn, mwy meddygol am berson sydd yn teimlo ysfa barhaol i fyw eu bywydau fel aelod o'r rhyw arall.

Trawswisgo: Term clinigol am un sy'n croes-wisgo. Person sydd yn gwisgo mewn dillad o'r rhyw arall. Yn gyffredinol, nid yw'r bobl hyn eisiau newid eu cyrff.

Ystrydebu: Mae ystrydebu yn digwydd pan fo gan berson neu sefydliad syniadau rhag blaen am unigolyn neu grŵp o bobl. Er enghraifft, 'Mae bob dyn hoyw yn ferchetaidd' neu 'Mae bob lesbiad yn gwisgo DM's ac yn eillio'u pennau.'


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth