Ydych chi wedi gweld erthygl neu lythyr mewn papur newydd neu gylchgrawn sydd wedi eich siomi? Neu efallai i chi weld un sydd yn portreadu'r gymuned LHD mewn ffordd gadarnhaol?
Os felly, mae'n bwysig i chi leisio'ch barn.
Mae 'Llythyr at y Golygydd' yn ffordd ardderchog i unioni straeon niweidiol, dechrau trafodaeth fywiog a hybu agweddau cadarnhaol am y gymuned LHD.
Dyma ganllaw Gwyliwch Allan i ysgrifennu llythyr da, gan roi awgrymiadau am ffyrdd o gynyddu'r siawns o weld eich llythyr yn cael ei gyhoeddi.
Mae llai na 150 o eiriau yn ddelfrydol. Bydd unrhywbeth hirach na hyn yn cael ei gwtogi, efallai gan golli eich prif bwynt!
Rhowch y dyddiad, pennawd, cyhoeddiad a rhif y dudalen
Ceisiwch osgoi ymateb i bob mater sydd wedi eich siomi neu'ch plesio. Bydd un prif bwynt y llythyr yn fwy effeithiol. Os oes gennych fwy nag un pwynt - annogwch gyfaill i ysgrifennu am y llall.
Rhestrwch beth sydd wedi eich digio. Yr iaith a ddefnyddiwyd? A oedd y naws yn eich siomi? A oedd y ffeithiau yn anghywir? A oedd yn erthygl cytbwys?
Byddwch yn benodol ac ewch yn syth at y pwynt.
Mae agwedd rhesymol yn llawer mwy tebygol o gael ei gymryd o ddifrif.
Ydych chi'n hollol sicr bod eich pwyntiau yn ffeithiau ac nid yn fater o farn? Oes modd eu cadarnhau?
A ydych eisiau gweld erthygl arall yn cael ei ysgrifennu sydd yn delio gyda'r pwyntiau a godwyd gennych?
A ydych eisiau i'r golygydd ail ystyried yr erthyglau / llythyrau y maent yn eu hargraffu?
A ydych eisiau gweld ymddiheuriad/cywiriad yn cael ei gyhoeddi? Os felly, bydd angen cadarnhau geiriad yr ymddiheuriad/cywiriad a phryd y bydd yn ymddangos.
Gallwch ofyn am beidio â chyhoeddi eich manylion os ydych yn teimlo y gallech gael eich gosod mewn sefyllfa o berygl.
Os nad ydych eisiau i'ch llythyr gael ei gyhoeddi ysgrifennwch NID AR GYFER EI GYHOEDDI ar y top.
Rydym eisiau clywed eich barn. Rydym am adeiladu darlun o'r holl sylw yn y wasg sydd naill ai wedi eich plesio neu eich siomi. Yna gallwn ddechrau gwneud rhywbeth am y peth. Cliciwch yma i gysylltu gyda Gwyliwch Allan.
Sylwadau am y dudalen