Cynorthwyo Gwyliwch Allan

Mae nifer o ffyrdd y gallwch chi gynorthwyo Gwyliwch Allan.

Anfonwch eich enghreifftiau atom

Rydym eisiau i chi roi gwybod i ni am erthyglau a rhaglenni yn y cyfryngau Cymreig, yn Gymraeg neu yn Saesneg, yr oeddech chi yn eu hystyried yn rhagfarnllyd, homoffobaidd neu ymfflamychol, a dweud wrthym pam iddo'ch tramgwyddo. Rydym hefyd eisiau clywed am sylw cadarnhaol a ddaeth â gwên i'ch wyneb.

Rydym am ddarganfod os yw pobl LHD yng Nghymru yn cael eu cynrychioli yn deg gan y cyfryngau, a beth yr ydych chi, fel unigolyn, yn ei weld yn dderbyniol, neu'n annerbyniol. Yna gallwn ddechrau newid pethau er gwell.

Ni allwn addo ymateb yn bersonol i bob un o'ch pryderon ond rydym yn eich annog i gysylltu gyda'r cyfryngau yn uniongyrchol. Cliciwch yma i gael cyngor ar gysylltu gyda'r cyfryngau.

Anfonwch eich esiamplau at: Gwyliwch Allan, Stonewall Cymru, 3ydd llawr, Transport House, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9SB. Neu anfonwch ebost at cymru@stonewallcymru.org.uk

Byddwch yn 'Berson Cyswllt Gwyliwch Allan'

Rydym yn aml yn derbyn ceisiadau gan y cyfryngau am 'berson cyffredin' i'w cyfweld er mwyn rhoi apêl ehangach i'w straeon.  O ganlyniad, mae angen tîm o bobl cyswllt ar gyfer y cyfryngau, pobl y gallwn alw arnynt i siarad gyda'r cyfryngau. Gall hyn fod ar ffurf cyfweliad dros y ffôn, radio neu deledu yn fyw neu wedi'u recordio o flaen llaw, ac erthyglau yn y wasg, gyda neu heb luniau. Yn aml gellir gwneud rhain yn ddienw.

Byddwn yn gweithredu fel person canol rhyngddoch chi a'r cyfryngau. Nid ydym yn rhoi eich manylion cyswllt heb gysylltu gyda chi yn gyntaf ynglŷn ag ymholiad y cyfryngau, er mwyn gofyn i chi os ydych yn fodlon siarad am y thema arbennig sydd dan sylw.

Yn aml mae pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) yn anweledig mewn rhai adroddiadau gan y cyfryngau felly bydd eich 'llais' yn chwarae rhan bwysig wrth ddylanwadu ar y cyfryngau ac ar farn gyhoeddus am faterion LHD. Efallai eich bod eisiau siarad am eich profad o fwlio yn y gwaith neu'r ysgol; neu efallai eich bod yn paratoi ar gyfer eich Partneriaeth Sifil a'ch bod am ddweud wrth bobl pa mor bwysig y mae'r diwrnod hwn i chi. Gall eich presenoldeb ar y cyfryngau wneud gwahaniaeth.

Os nad ydych wedi delio gyda'r cyfryngau erioed o'r blaen, neu os ydych yn teimlo bod angen gwella eich sgiliau cyfryngol, mae'n bosibl y medrwn gynnig hyfforddiant i chi er mwyn paratoi ar gyfer unrhyw gysylltiad gyda'r cyfryngau. Gallwn hefyd ddarparu nodyn briffio a gwybodaeth cefndir ar y pwnc, cyd-destun y stori a'r 'driniaeth' debygol gan y cyfryngau.

Am fwy gwybodaeth cliciwch yma 


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth