Gwneud Cyfweliadau gyda'r Cyfryngau
Mae angen ymarfer a llawer o baratoi er mwyn gwneud cyfweliad da gyda'r cyfryngau.
Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi gwneud cyfweliad gyda'r cyfryngau o'r blaen, oherwydd ar y dudalen hon fe gewch gyngor ar sut i wneud cyfweliad da, a chysylltiadau am fwy o wybodaeth.
1. Paratowch
- Dewch i adnabod y newyddiadurydd. Ceisiwch ddarganfod pa ogwydd maent yn ei gymryd, pwy yw eu cynulleidfa, pwy arall maent yn eu cyfweld a pha gwestiynau y byddant yn eu gofyn i chi.
- Os yw'r newyddiadurydd eisiau dyfyniad cyflym peidiwch ag ofni dweud y byddwch yn dychwelyd eu galwad. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi feddwl. Ond dychwelwch yr alwad mor fuan â phosib. Mae newyddiadurydd yn aml yn gweithio i amserlen dynn.
- Paratowch nodiadau i gyfeirio atynt. Dylai'r nodiadau hyn danlinellu'r prif bwyntiau yr ydych am eu codi.
2. Siaradwch gyda'ch cynulleidfa
- Siaradwch mewn ffordd dawel, hwyliog, sgyrsiol. Ceisiwch osgoi defnyddio termau a thalfyriadau sydd yn ddiystyr y tu allan i'ch sefydliad.
- Meddyliwch am eich cynulleidfa. Ceisiwch adnabod ambell fater allweddol a fydd fwyaf tebygol o fod o ddiddordeb i'ch cynulleidfa.
- Rhowch enghreifftiau. Mae profiadau bywyd go-iawn yn offeryn pwerus er mwyn trosglwyddo eich stori i'r gynulleidfa.
3. Cadwch reolaeth
- Cadwch reolaeth ar y cyfweliad. Rydych yn adnabod eich pwnc yn well na'r newyddiadurydd.
Am fwy o wybodaeth am siarad gyda'r cyfryngau ewch i www.mediatrust.org
Neu
Am wybodaeth am gyrsiau hyfforddiant cyfryngau yn eich ardal ewch i www.wvca.org.uk
*Nid yw Stonewall yn derbyn cyfrifoldeb am gynnwys safleoedd allanol.
Sylwadau am y dudalen