Helpwch Stonewall Cymru i wthio am Gydraddoldeb Priodas!

Marriage1Marriage2

Mesur Priodas (Cyplau o’r Un Rhyw) – beth sy’n digwydd?

Ar 24 Ionawr 2013, cyflwynodd y Gwir Anrhydeddus Maria Miller AS y Mesur Priodas (Cyplau o’r Un Rhyw) i’r Senedd.Mae’r Mesur yn cynnwys y ddeddfwriaeth angenrheidiol i ymestyn y ffurf gyfreithiol ar briodas i gyplau o’r un rhyw. Ddydd Mawrth 21 Mai pasiodd y Mesur ei bleidlais Trydydd Darlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin a hynny o 366 pleidlais i 161 heb unrhyw welliannau dinistrio.


Bellach mae’r Mesur wedi gwneud ei ffordd i Dŷ’r Arglwyddi lle rydyn ni’n disgwyl y bydd brwydr galed o’n blaenau.

Gallwch ddarllen y mesur llawn yma.

Gallwch hefyd gael manylion diweddaraf yr ymgyrch drwy ein dilyn ni ar Twitter neu ar Facebook. 

Ail Ddarlleniad Tŷ’r Cyffredin

Bu Ail Ddarlleniad y Mesur Priodas (Cyplau o’r Un Rhyw) yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Mawrth 5 Chwefror 2013.


Dyma’r cyfle cyntaf oedd gan Aelodau Seneddol i drafod y Mesur yn fanwl a phleidleisio ar y cynigion. Roeddem wrth ein boddau bod Aelodau Seneddol wedi pleidleisio gyda mwyafrif ysgubol dros gefnogi cydraddoldeb priodas yng Nghymru a Lloegr.


Roedd y bleidlais derfynol o blaid priodas gyfartal yn 400 i 175 – mwyafrif o 225.

Gallwch weld ein datganiad llawn yn croesawu’r canlyniad yma.


Gallwch weld trafodaeth lawn yr Ail Ddarlleniad yma.

Gallwch weld rhestr lawn o'r modd y pleidleisiodd Aelodau Seneddol Cymru yn yr Ail Ddarlleniad yma.

 

Pwyllgor Mesur Tŷ’r Cyffredin

Yn dilyn Ail Ddarlleniad y Mesur Priodas (Cyplau o’r Un Rhyw) yn Nhŷ’r Cyffredin, aeth y Mesur ymlaen i Bwyllgor Mesur.


Yng nghyfnod cyntaf y Pwyllgor Mesur cafwyd tystiolaeth a barn unigolion a sefydliadau am y Mesur. Rhoddodd Prif Weithredwr Stonewall, Ben Summerskill, dystiolaeth fanwl i’r Pwyllgor ddydd Mawrth 12 Chwefror.

Gallwch wylio tystiolaeth Stonewall i Bwyllgor Mesur Tŷ’r Cyffredin yma.


Gallwch hefyd ddarllen trawsgrifiad llawn yma.

Mae ail gyfnod y Pwyllgor Mesur yn caniatáu i Aelodau Seneddol – o’r prif bleidiau gwleidyddol – graffu ar y cynigion yn fanylach. Gall Aelodau Seneddol edrych drwy bob rhan o’r Mesur a chynnig gwelliannau.


Aeth Stonewall i bob un o sesiynau’r Pwyllgor ac mae wedi briffio Aelodau Seneddol drwy gydol y broses. Rydyn ni hefyd wedi bod yn rhoi sylw i'r trafodaethau ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Gallwch weld trawsgrifiadau o drafodaethau Pwyllgorau a darllen unrhyw welliannau a gynigiwyd yma. 

Mae rhai o’r gwelliannau yn eithaf technegol, felly mae croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Cyfnod Adrodd a Thrydydd Darlleniad Tŷ’r Cyffredin

Digwyddodd cyfnod Adrodd y Mesur ar 20 a 21 Mai 2013. Roedd hyn yn caniatáu cyfle pellach i Aelodau Seneddol drafod a diwygio cymalau penodol o’r Mesur. Cafodd sawl gwelliant dinistrio amlwg eu cynnig a’u trafod.


Ar ddiwedd diwrnod cyntaf y cyfnod Adrodd gwrthododd Tŷ’r Cyffredin welliant – a hynny o 375 pleidlais i 70 – oedd â’r bwriad o ddinistrio’r Mesur Priodas (Cyplau o’r Un Rhyw). Byddai’r diwygiad, a gyflwynwyd gan rai sy’n uchel eu cloch yn erbyn cydraddoldeb, wedi arwain at oedi sylweddol o ran gweithredu’r Mesur.


Digwyddodd Trydydd Darlleniad y Mesur ar 21 Mai, ac roedd yn gyfle i Aelodau Seneddol drafod y Mesur yn ei gyfanrwydd. Pasiodd y Mesur ei bleidlais Trydydd Darlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin o 366 pleidlais i 161 heb ddim gwelliannau dinistrio.

Gallwch ddarllen dadl gyfan diwrnod cyntaf y Cyfnod Adrodd yma.

Gallwch ddarllen dadl lawn ail ddiwrnod y Cyfnod Adrodd a'r Trydydd Darlleniad yma.  

Gallwch weld rhestr lawn o'r ffordd y pleidleisiodd Aelodau Seneddol Cymru yn y Trydydd Darlleniad yma.   

 

Beth sydd nesaf?

Bellach mae’r Mesur wedi gwneud ei ffordd i Dŷ’r Arglwyddi. Bydd yn rhaid iddo unwaith eto gwblhau cyfnodau Ail Ddarlleniad, Pwyllgor, Cyfnod Adrodd a Thrydydd Darlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi. Bydd yr Ail Ddarlleniad ar 3 Mehefin.

Unwaith y bydd Aelodau Seneddol ac Aelodau Tŷ’r Arglwyddi wedi cytuno, caiff y Mesur ei anfon i gael Cydsyniad Brenhinol. Dyma’r cyfnod pan fydd y Frenhines yn llofnodi Mesur, a thrwy hynny yn ei wneud yn ddeddf.  

Sut gallwch chi helpu

Cysylltwch â’ch Aelod Seneddol

Ar 21 Mai, pleidleisiodd Aelodau Seneddol gyda mwyafrif ysgubol i gefnogi cydraddoldeb priodas yng Nghymru a Lloegr. Pleidleisiodd 366 o Aelodau Seneddol i gefnogi’r Mesur Priodas (Cyplau o’r Un Rhyw) yn y Trydydd Darlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin.


Yn anffodus, pleidleisiodd 161 o Aelodau Seneddol yn erbyn y mesur olaf rhesymol hwn o gydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol.


Os na phleidleisiodd eich Aelod Seneddol i gefnogi cydraddoldeb priodas efallai y byddwch am ysgrifennu atynt i ofyn pam. Os pleidleisioch chi drostyn nhw yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf, efallai y byddwch chi am roi gwybod iddyn nhw sut y gallai eu penderfyniad nhw ddylanwadu ar eich pleidlais yn y dyfodol.


Gallwch weld rhestr lawn o'r ffordd y pleidleisiodd Aelodau Seneddol yn y Trydydd Darlleniad yma. I weld pwy yw eich Aelodau Seneddol neu sut i gysylltu â nhw cliciwch yma.

Cyfrannu

Mae perthnasau hirdymor o’r un rhyw yn cael eu cymharu’n gyhoeddus â bwystfileiddiwch, caethwasiaeth a cham-drin plant gan wrthwynebwyr priodas gyfartal – pobl sy’n fodlon gwneud mwy neu lai unrhyw beth er mwyn rhwystro pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol Prydain rhag cael y mesur olaf hwn o gydraddoldeb. Mae gwrthwynebiad gan grwpiau fel y Glymblaid dros Briodas honedig a’r Eglwys Babyddol yn ceisio creu momentwm a denu sylw’r cyfryngau er mwyn achosi anniddigrwydd ymhlith y cyhoedd.


Rydyn ni’n gwybod mai dwysáu y bydd yr ymgyrch hon yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf, felly mae’n hanfodol bod lleisiau’r 3.7 miliwn o bobl hoyw ym Mhrydain yn cael eu clywed uwchlaw’r rhagfarn a’r culni.

Bydd eich cyfraniad chi yn ein helpu ni i wrthwynebu’r ymgyrch hon yn erbyn cydraddoldeb, ymgyrch sydd ag arian y tu ôl iddi, a bydd yn ein helpu ni i barhau i wthio i ymestyn priodas gyfreithlon i gyplau o’r un rhyw. 

Gallwch gyfrannu at ein hymgyrch priodas gyfartal yma.

Byddwch yn Gyfaill i Stonewall Cymru

Byddwn ni’n ymgyrchu’n galed yn ystod y misoedd nesaf i sicrhau bod Aelodau Seneddol ac aelodau Tŷ’r Arglwyddi yn cefnogi’r mesur olaf rhesymol hwn o gydraddoldeb yn ôl y gyfraith.

Mae angen eich help chi arnon ni i wneud hyn. Gallwch ddod yn Gyfaill i Stonewall Cymru drwy gyfrannu dim ond £5 y mis.

Beth Rydyn ni’n ei Wneud

Mae Stonewall Cymru wedi ymgyrchu’n hir i ymestyn y ffurf gyfreithiol ar briodas i gyplau o’r un rhyw, ac rydym yn croesawu cyflwyno’r Mesur Priodas (Cyplau o’r Un Rhyw) yn gynnes.

Rydym yn arbennig o falch bod gweinidogion wedi cael eu darbwyllo y dylid ymestyn ar eu cynnig gwreiddiol drwy ganiatáu priodasau o’r un rhyw i enwadau crefyddol sy’n dymuno eu cynnal. Darllenwch ddatganiad Stonewall am y cyhoeddiad.

Byddwn yn ymgyrchu’n galed yn ystod y misoedd nesaf i sicrhau bod Aelodau Seneddol ac Aelodau Tŷ’r Arglwyddi yn pasio’r mesur olaf rhesymol hwn o gydraddoldeb yn ôl y gyfraith i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru a Lloegr. Yn anffodus, mae rhai sylwadau hynod sarhaus yn ddiweddar, yn cymharu cydraddoldeb priodas â chaethwasiaeth, cam-drin plant, amlwreiciaeth a bwystfileiddiwch yn dangos yn eglur ein bod yn dal i wynebu gwrthwynebiad sylweddol.

Dyna pam y gwnaethon ni lansio apêl 'Dywedwch Gwnaf wrth Briodas Gyfartal' ym mis Gorffennaf, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu parhau i alw am y mesur olaf hwn o gydraddoldeb yng ngolwg y gyfraith.I gael rhagor o wybodaeth ac i gefnogi ein hymgyrch cliciwch yma. 

Byddwn hefyd yn erfyn ar holl gefnogwyr cydraddoldeb priodas i leisio eu barn drwy ysgrifennu, e-bostio neu hyd yn oed drydar wrth eich Aelodau Seneddol.


Dilynwch ni ar Facebook a Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch. Gallwch hefyd drydar am yr ymgyrch gan ddefnyddio #priodasgyfartal.

Beth Rydyn ni wedi’i Wneud

Ym mis Mehefin hefyd y caeodd y llywodraeth yr ymgynghoriad ar ei bwriad i ymestyn y ffurf gyfreithiol ar briodas i gyplau o’r un rhyw. Anfonodd Stonewall ein hymateb manwl ym mis Mawrth gan erfyn ar holl gefnogwyr cydraddoldeb priodas i ymuno yn ein hymgyrch ac ymateb i’r ymgynghoriad eu hunain.


Rydym hefyd wedi cyhoeddi ystod o ddeunyddiau gweledol yn annog y llywodraeth i brysuro ymlaen  â’i chynllun i ymestyn y ffurf gyfreithiol ar briodas i gyplau o’r un rhyw a chaniatáu enwadau crefyddol i dathlu priodasau rhwng cyplau o’r un rhyw os ydynt yn dymuno gwneud hynny.

Cyhoeddodd Stonewall fesur seneddol drafft ar 14 Chwefror 2012 ar gyfer ymestyn ffurf gyfreithiol priodas ar gyfer cyplau o’r un rhyw. Mae’r Mesur syml, sy’n ddwy dudalen o hyd ac yn cynnwys pum cymal, yn amlinellu’r camau deddfwriaethol sy’n angenrheidiol er mwyn caniatáu i gyplau o’r un rhyw briodi. Rydym yn gobeithio y bydd cynigion manwl yn cael eu hamlinellu yn Araith y Frenhines ym mis Mai 2012.

Cliciwch yma i ddarllen y Mesur i Ymestyn Priodas i Gyplau o'r un Rhyw. 

Ym mis Mehefin 2011, cyhoeddodd Stonewall ymateb drafft i’r ymgynghoriad, a oedd yn nodi’r cwestiynau allweddol a fyddai’n debygol o gael eu gofyn pan fyddai’r Llywodraeth yn cyhoeddi ei hymgynghoriad ei hun.

Cliciwch yma i ddarllen ymateb drafft Stonewall i'r ymgynghoriad. (GwefanSaesneg)

Mae Stonewall Scotland hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth yr Alban i sicrhau priodas rhwng unigolion o’r un rhyw yn yr Alban. I gael rhagor o wybodaeth am waith Stonewall Scotland cliciwch yma.

Darllenwch ymateb Stonewall Scotland i ymgynghoriad Llywodraeth yr Alban ar briodas rhwng unigolion o'r un rhyw.

Pam cydraddoldeb priodasau?

Brwydrodd Stonewall yn galed ac yn hir i gyflwyno partneriaethau sifil yn 2005. Yn anffodus, dywedodd yr Arglwydd Tebbit mor ddiweddar â 2010: ‘Fe ddylen ni fod yn gwbl, gwbl glir nad yw partneriaeth sifil yn briodas, ni all fod yn briodas, ni fydd fyth yn briodas a dylid ymdrin â hi yn gwbl ar wahân i briodas.’


Yn anffodus, mae mynnu bod yn rhaid i briodasau a phartneriaethau sifil gael eu cadw ar wahân ac yn gwbl gyferbyniol o ran cydraddoldeb, yn parhau i gyfleu’r syniad sarhaus nad yw perthynas rhwng pobl o’r un rhyw mor sefydlog, mor gyfoethog nac mor ddilys â pherthynas rhwng cyplau heterorywiol, hyd yn oed os nad yw hynny’n fwriadol. Mae’n amlwg bod y safbwyntiau hyn yn cael effaith negyddol ar agweddau’r cyhoedd tuag at bobl hoyw eu hunain.


Felly, rydym am i briodas sifil fod ar gael i gyplau o'r un rhyw ar yr un sail â phriodas heterorywiol – ar gael mewn swyddfa gofrestru ond heb fandad ar fudiadau crefyddol i’w dathlu.

Marriage1Marriage2

 


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth