Dyfodol disglair i gymuned chwaraeon LHDT Cymru 

Mae ffigyrau allweddol ledled cymuned chwaraeon Cymru’n dathlu heddiw wrth i gam mawr ymlaen gael ei gymryd i sicrhau bod chwaraeon yn groesawus a diogel, heb unrhyw wahaniaethu, gyda lansiad siarter i annog cydraddoldeb lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol (LHDT).   

Mae’r siarter – a gymeradwywyd heddiw gan y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths, ar risiau’r Senedd – yn ymrwymiad symbolaidd mawr i gydraddoldeb LHDT ac mae ysgolion, clybiau a chyrff rheoli cenedlaethol o bob cwr o Gymru’n cael eu hannog i ymrwymo iddo.

Bydd y rhai fydd yn gwneud hynny’n ymrwymo i weledigaeth o gymuned chwaraeon LHDT ffyniannus yng Nghymru, lle mae unigolion yn teimlo bod croeso iddynt ac yn teimlo’n ddiogel rhag unrhyw fath o wahaniaethu yn eu herbyn. Mae’r siarter hefyd yn ymrwymo i bolisi o ddim goddefgarwch i homoffobia, deuffobia a thrawsffobia.

Mae wedi cael ei lunio gan Rwydwaith LHDT Chwaraeon Cymru, a sefydlwyd gan Chwaraeon Cymru yn sgil gwaith ymchwil a wnaed mewn partneriaeth â Stonewall Cymru, mewn ymgais i ddeall profiadau chwaraeon cymunedau LHDT Cymru yn well.

Datgelodd yr ymchwil ganfyddiadau calonogol, gyda 94% o’r ymatebwyr wedi cymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod y 12 mis diwethaf. O blith y rhai a oedd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod y 12 mis diwethaf, roedd tri chwarter y bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol wedi clywed cellwair homoffobig, gyda thraean wedi profi eithrio o’r gamp o’u dewis.              

Fodd bynnag, tynnir sylw hefyd at y ffaith bod 72% o’r rhai a holwyd wedi dweud y byddent yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn clwb pe bai’n cael ei farchnata fel clwb cyfeillgar i bobl LHDT ac yn trefnu ei weithgareddau ar sail hyn.          

Mae sefydliadau’r rhwydwaith yn cynnwys Stonewall Cymru, Mardi Gras a hefyd cyrff chwaraeon fel Undeb Rygbi Cymru a Chymdeithas Bêl Droed Cymru.

Eglurodd Cadeirydd Rhwydwaith LHDT Chwaraeon Cymru, Helen Adams:

“Mae’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni mewn cyfnod byr o amser yn bellgyrhaeddol. Mae gennym ni sefydliadau mawr wrth y bwrdd yn awr, sydd wedi ymrwymo i weithredu’n gadarnhaol. Rydyn ni wedi dechrau recriwtio modelau rôl i’n helpu ni i hybu’r cyfleoedd sydd ar gael mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac i wneud i aelodau’r gymuned LHDT deimlo bod croeso iddyn nhw. Rydyn ni wedi cael ymateb gwych hyd yma ond mae siwrnai faith o’n blaen.”

“Mae’r siarter yn gam mawr ymlaen – mae’n ddatganiad o fwriad enfawr sy’n datgan yn glir beth rydyn ni eisiau ei gyflawni gyda’n gilydd ledled Cymru. Rydyn ni’n annog ysgolion, clybiau a chyrff rheoli cenedlaethol i ymrwymo nawr a’n cefnogi ni i groesawu’r gymuned LHDT ledled y sector chwaraeon cyfan.         

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, John Griffiths:

“Fe hoffwn i longyfarch Rhwydwaith LHDT Chwaraeon Cymru ar y gwaith rhagorol mae wedi'i wneud yn llunio'r Siarter yma. Rydw i'n credu y bydd polisi o ddim goddefgarwch tuag at homoffobia a thrawsffobia mewn chwaraeon yn sicrhau bod aelodau'r gymuned LHDT yn cael cymryd rhan ym mhob arena chwaraeon, gan deimlo bod croeso iddyn nhw a theimlo'n ddiogel rhag unrhyw wahaniaethu yn eu herbyn.”

Dywedodd Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis:

“Mae Undeb Rygbi Cymru’n falch o fod yn rhan o’r siarter pwysig yma sy’n ein hymrwymo ni i gyd i warchod cynhwysiant ein chwaraeon amrywiol.           
     
“Mae’r byd rygbi yng Nghymru’n rhyfeddol rydd o ragfarn. Er hynny, fe fyddwn ni’n dal ati i weithio’n galed i sicrhau bod ein camp yn estyn croeso cynnes bob amser i bawb sydd eisiau cymryd rhan, fel chwaraewyr, hyfforddwyr, gweinyddwyr, gwirfoddolwyr neu gefnogwyr.

“Bydd llawer o bobl yng Nghymru wedi clywed am dîm Llewod Caerdydd sy’n hyrwyddo cynnwys dynion hoyw mewn rygbi, ac mae mentrau fel hyn yn bwysig fel tystiolaeth gadarn o’n hymrwymiad ni i’r siarter.”

Eglurodd yr Athro Laura McAllister, Cadeirydd Chwaraeon Cymru:

“Rydyn ni eisiau gweld pob plentyn, person ifanc ac oedolyn wedi gwirioni ar chwaraeon yng Nghymru, ac rydyn ni’n golygu ‘pob’ un - ni allwn ni, ac ni ddylem, golli cenhedlaeth o bobl o’r byd chwaraeon am nad ydyn nhw’n teimlo bod croeso iddyn nhw. Fel sector modern a blaengar ein ffordd o feddwl, fe all chwaraeon wneud gwahaniaeth. Mae’n rhaid i’r sector wneud chwaraeon yn gynhwysol, yn groesawus ac yn lle diogel. Fe allwn ni i gyd bwyso a mesur a meddwl am yr hyn allwn ni ei wneud yn wahanol a herio ymddygiad sefydliadau eraill, pan fydd hynny’n briodol, os nad ydyn nhw’n ymddwyn yn briodol.”

Dywedodd Andrew White o Stonewall Cymru:

“Rydyn ni’n gwybod bod pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yng Nghymru’n fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon pan mae clybiau’n dangos ymrwymiad clir i gydraddoldeb.

“Does dim gwadu’r manteision sydd i’w cael o gymryd rhan mewn chwaraeon. O gofio ein hanes a’n dyheadau ni fel cenedl chwaraeon, mae digon o resymau i glybiau lleol a chyrff rheoli cenedlaethol ymrwymo i’r siarter yma. Rydyn ni’n gobeithio bod hwn yn fan cychwyn mewn ymgyrch i neidio dros y clwydi anodd weithiau i sicrhau cydraddoldeb go iawn mewn chwaraeon.”

I ddarllen canfyddiadau’r ymchwil a’r siarter, ewch i www.sportwales.org.uk/lgbreport

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Jane Thomas yn Chwaraeon Cymru ar 029 2033 8274 neu Paul Batcup ar 029 2033 8359.

E-gylchlythyr cofrestru


Ymholiadau'r
cyfryngau


Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744

Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704

Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk