5 February 2013
Funudau yn ôl, pleidleisiodd mwyafrif o 225 o Aelodau Seneddol o blaid y Bil Priodasau (Cyplau o’r un Rhyw) newydd. Bydd y Bil yn ymestyn ffurf gyfreithiol priodas i lesbiaid, hoywon a phobl ddeurywiol ac yn caniatáu i enwadau crefyddol ddathlu priodasau o’r fath pe baent yn dymuno.
Meddai Prif Weithredwr Stonewall, Ben Summerskill said: ‘Mae hwn yn gam hanesyddol gwirioneddol, y darn olaf o’r jig-so deddfwriaethol sy’n sicrhau cydraddoldeb i bobl hoyw ym Mhrydain. Rydyn ni wrth ein bodd bod cymaint o Aelodau Seneddol wedi dangos bod eu bysedd ar bỳls Prydain yr 21ain ganrif.
‘Fel ag erioed, rydyn ni’n disgwyl brwydr anodd yn Nhŷ’r Arglwyddi. Yn ffodus iawn, bydd y mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin heno – sy’n llawer uwch na'r hyn a welir ym musnes arferol y Llywodraeth – yn ei gwneud hi’n anodd iawn i'r arglwyddi awgrymu y dylid gwrthod y Bil.
‘Mae’r rhan fwyaf o bobl ym Mhrydain yn cefnogi priodasau cyfartal, ac fe fyddan nhw’n falch ein bod ni bellach gam yn nes at hynny. Rydyn ni’n ddiolchgar i’r miloedd o gefnogwyr Stonewall, nifer ohonyn nhw’n strêt, sydd wedi chwarae rhan mor bwysig drwy gysylltu â’u Haelodau Seneddol i gefnogi.
Roedd arolwg YouGov ar gyfer Stonewall yn dangos bod 71% yn cefnogi priodasau cyfartal. Mae’r ffigur hwn yn codi i 82% ymhlith pobl o dan 50.
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen