Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: “Mae arolygon YouGov ar gyfer adroddiad Byw Gyda’n Gilydd Stonewall yn dangos bod y rhan fwyaf o bobl yn cefnogi priodas gyfartal, felly mae’n galonogol gweld yr arwydd diweddaraf hwn o gefnogaeth gan y Cynulliad. Mae hefyd yn profi gwerth gwaith caled Stonewall Cymru yn ystod y degawd diwethaf er mwyn cael cefnogaeth draws-bleidiol ar gyfer cydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol sy’n byw yng Nghymru. Byddwn yn parhau i bwyso am briodas gyfartal yng Nghaerdydd a gyda’r un faint o egni yn San Steffan.”
Noddir y Datganiad Barn gan Mike Hedges AC (Llafur), Peter Black AC (Democratiaid Rhyddfrydol), Leanne Wood AC (Plaid Cymru) a gellir ddod o hyd iddo fan hyn: http://assemblywales.org/cy/bus-home/bus-business-fourth-assembly-statements-opinion.htm?act=dis&id=241905&ds=1/2013
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen