Dywedodd Andrew White: ‘Rydyn ni’n falch iawn o glywed datganiad llywodraeth San Steffan heddiw. Mae ein croeso i’r addewid y bydd yn deddfu i ganiatáu priodas gyfartal yr un mor gynnes heddiw ag yr oedd ein croeso ar y tri achlysur blaenorol y mae’r llywodraeth wedi gwneud y datganiad.
Rydyn ni’n arbennig o falch bod gweinidogion wedi cael eu darbwyllo i ymestyn eu cynigion blaenorol er mwyn caniatáu priodasau rhwng cyplau o’r un rhyw ar gyfer yr enwadau crefyddol hynny sy’n dymuno eu cynnal. Mae hwn yn fater pwysig o ryddid crefyddol.
Er ein bod yn parchu safbwynt y rhai sy’n gwrthwynebu cynlluniau’r llywodraeth, rydyn ni’n dal i ddweud mai’r cyngor gorau iddyn nhw yw hyn: os nad ydych chi am gael priodas gyda rhywun o’r un rhyw, gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n priodi rhywun o’r un rhyw.’
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen