Mae Stonewall Cymru wedi lansio ymgyrch yn galw ar ymgeiswyr am swyddi Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ledled Cymru i addo mynd i’r afael â throseddau casineb homoffobaidd. Mae’r elusen wedi lansio gwefan syml yn esbonio’r hyn y bydd y Comisiynwyr newydd yn ei olygu i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol, ac yn annog iddynt i bleidleisio yn yr etholiadau ar 15 Tachwedd. Gall pleidleiswyr lawrlwytho e-gardiau post sy’n galw ar yr ymgeiswyr i ddweud beth y byddant yn ei wneud i fynd i’r afael â thrais casineb.
Bydd gan Gomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu bwerau eang i osod blaenoriaethau plismona lleol. Mae ymchwil Stonewall yn dangos bod troseddau casineb gwrth-hoyw yn dal i fod yn broblem ddifrifol ymhob ardal heddlu ym Mhrydain, gydag un ymhob wyth o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn dweud eu bod wedi profi digwyddiad neu drosedd casineb. Mae saith ymhob deg o bobl hoyw yn dweud na wnaethon nhw adrodd ar y digwyddiadau, ac roedd traean ohonynt o’r farn na fyddai’r heddlu yn eu cymryd o ddifrif. Mae Stonewall Cymru yn gweithio’n agos â heddluoedd ledled Cymru i’w helpu i weithio’n fwy effeithiol dros bawb yn eu cymunedau, a bydd yn ymgysylltu â’r Comisiynwyr ar ôl eu hethol er mwyn sicrhau eu bod yn deall pryderon pobl hoyw ac yn ymateb iddynt.
Dywedodd Ben Summerskill, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: ‘Yn rhy aml mae pobl hoyw yn wynebu trais neu sarhad cyhoeddus oherwydd y ffordd y cawsant eu geni, ac yn rhy aml maen nhw’n poeni na fydd yr heddlu’n gwneud dim am y peth. Ni ddylai’r un dinesydd orfod teimlo’n ddiamddiffyn yn wyneb aflonyddu neu fygythion. Mae’n gwbl hanfodol bod pobl hoyw yn ymgysylltu â Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, ac yn dweud eu dweud ar 15 Tachwedd.’
Mae gwybodaeth Stonewall Cumru am etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar gael yn www.stonewallcymru.org.uk/etholiadauheddlu
diwedd
Ymholiadau: Andrew White ar 029 2023 7744 neu 0777 935 9704
Ymholiadau cyfrwng Saesneg: Andy Wasley, Rheolwr Cyfryngau,
ar 020 7593 3469 neu 07813 886189.
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen