Bydd dynion sydd ag euogfarnau blaenorol am ryw hoyw cydsyniol yn gallu gwneud cais i’w diystyru, wedi i ddeddf hanfodol newydd gael Cydsyniad Brenhinol heddiw. Mae’r Ddeddf Diogelu Rhyddidau yn cynnwys diwygiadau a sicrhawyd gan Stonewall a fydd yn galluogi dynion hoyw a deurywiol a ddyfarnwyd yn euog yn faleisus o ‘loetran yn fwriadol’ o dan Adran 4 Deddf Crwydradaeth 1824 i’w dileu o'u cofnod troseddol. Derbyniodd y Ddeddf gefnogaeth o bob rhan o’r Senedd, yn dilyn ymgyrch lobïo gan Stonewall.
Dywedodd Prif Weithredwr Stonewall, Ben Summerskill: ‘Does dim lle o gwbl i foesoldeb Fictoraidd yn yr ugeinfed ganrif ar hugain ym Mhrydain. Rydyn ni’n gwybod am nifer o ddynion hoyw sydd ag euogfarnau homoffobaidd ar eu cofnodion sydd wedi peidio â chwilio am waith neu wirfoddoli eu hamser ar gyfer achosion da. Fe fyddan nhw wrth eu bodd gyda'r ddeddf newydd, bwysig, hon, a fydd yn helpu nifer o ddynion i edrych ymlaen at ddyfodol disgleiriach. Gobeithio y bydd y mesurau newydd yn cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosib.'
Rhoddodd Stonewall dystiolaeth i’r Pwyllgor Bil Cyhoeddus a oedd yn ystyried y Bil Diogelu Rhyddidau ar 24 Mawrth 2011, gan lobïo’r Ysgrifennydd Cartref i gynyddu sgôp y Ddeddf a diddymu mwy o droseddau hanesyddol.
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen