Heddiw mae Stonewall yn cyhoeddi Arolwg mwya'r byd o Iechyd Dynion Hoyw a Deurywiol, sy'n datgelu er bod dynion hoyw a deurywiol ym Mhrydain yn fwy tebygol o geisio lladd eu hunain neu hunan-niweidio, dioddef o iselder, ysmygu, yfed a chymryd cyffuriau anghyfreithlon, nid yw gwasanaethau iechyd yn aml yn sylwi ar eu hanghenion gan eu bod yn tueddu i ganolbwyntio ar iechyd rhywiol dynion hoyw yn unig.
Dangosodd arolwg Stonewall hefyd – sydd ar gael ar-lein yn www.stonewall.org.uk/gaymenshealth – fod dynion hoyw a deurywiol yn fwy tebygol na dynion yn gyffredinol o fod wedi dioddef cam-drin domestig dan law aelod o’r teulu neu bartner. Nid yw pedwar allan o bump o’r rhai sydd wedi wynebu camdriniaeth erioed wedi rhoi gwybod am hynny i’r heddlu, ac nid oedd dros hanner y rhai a wnaeth roi gwybod i’r heddlu yn fodlon â sut yr ymdriniodd yr heddlu â’r sefyllfa.
Dywedodd Prif Weithredwr Stonewall, Ben Summerskill: ‘Mae’r adroddiad hwn, sy’n peri pryder gwirioneddol, yn cyflwyno tystiolaeth bendant bod gwasanaethau iechyd yn esgeuluso’r 1.8 miliwn o ddynion hoyw a deurywiol ym Mhrydain gan eu bod yn aml yn gweld cyfunrywiaeth a deurywioldeb fel materion iechyd rhywiol yn unig. O ganlyniad, mae cannoedd ar filoedd o ddynion hoyw a deurywiol wir angen gwell cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol ym maes iechyd. Mae’r adroddiad pwysig hwn yn gwneud nifer o argymhellion a allai helpu gwasanaethau iechyd i wella cyn i fwy o fywydau gael eu difetha.’
Mae’r adroddiad, sy’n seiliedig ar ymatebion gan bron i 6,900 o ddynion hoyw a deurywiol ledled Prydain hefyd yn datgelu nad yw un allan o bob tri o ddynion wedi cael prawf am HIV. Mae hyn, meddai, yn codi: ‘pryderon difrifol ynghylch pa mor effeithiol y cafodd miliynau o bunnau o arian cyhoeddus ei wario ar ymwybyddiaeth o HIV ac atal HIV yn y blynyddoedd diwethaf.’
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen