Cyhoeddir mesur seneddol drafft ar gyfer ymestyn y ffurf gyfreithiol o briodas i bobl hoyw heddiw gan Stonewall. Mae'r Mesur yn amlinellu'r camau deddfwriaethol angenrheidiol i roi ar waith polisi a gefnogir erbyn hyn gan arweinwyr y pleidiau i gyd.
Addawodd Lynne Featherstone AS, y gweinidog cydraddoldeb, fis Medi diwethaf y byddai ymgynghoriad ffurfiol ar ymestyn y ffurf gyfreithiol o briodas i bobl hoyw yn dechrau ym mis Mawrth 2012. Mae'r cais wedi cael ei gefnogi gan David Cameron, Nick Clegg ac Ed Miliband.
'Rydym yn ffyddiog y bydd y llywodraeth yn mynd ymlaen â'i ymgynghoriad fel addawyd erbyn diwedd mis Mawrth,' meddai Ben Summerskill, Prif Weithredwr Stonewall. 'Rydym hefyd yn ffyddiog y bydd y llywodraeth yn cyhoeddi Papur Gwyn sy’n ymgynghori ar y manylion o ran sut i weithredu ei gynnig, ac nid Papur Gwyrdd sydd ond yn ymgynghori ar yr egwyddor ehangach. Nid oes rhaid i’r Mesur syml dwy dudalen a phump cymal cymryd llawer o amser seneddol. Gallai ei gynnwys yn hawdd yn Araith y Frenhines ym mis Mai. '
Llywodraeth yr Alban eisoes wedi cyhoeddi ei bod yn bwriadu ymestyn y ffurf gyfreithiol o briodas i gyplau o'r un rhyw. Os bydd yn mynd yn ei flaen, bydd angen cyflwyno deddfwriaeth yn San Steffan ar gyfer Lloegr a Chymru yn unig.
Mae drafft o Fesur Estyn Briodas i Gyplau o'r un Rhyw 2012 ar-lein a gellir ei lwytho i lawr yma.
Ymholiadau: Andy Wasley ar 020 7593 3469.
Sylwadau am y dudalen