Heddiw mae Stonewall yn cyhoeddi rhestr o 100 Cyflogwr Gorau 2012, sy’n dangos cyflogwyr gorau Prydain ar gyfer staff hoyw, ac mae'r rhestr yn cynnwys 12 o gyflogwyr yng Nghymru.
Am y bedwaredd flwyddyn o’r bron, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru sydd wedi dod i’r brig fel y lle gorau i weithio yng Nghymru ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn 2012. Yr ail gyflogwr gorau yng Nghymru yw Lloyds Banking Group a Chynulliad Cenedlaethol Cymru sy’n drydydd.
Mae’r rhestr 100 Cyflogwr Gorau yn seiliedig ar ganlyniadau Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall sy’n asesu ystod o ddangosyddion allweddol gan gynnwys arolwg boddhad staff o dros 7,500 o weithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
Mae cyflogwyr eraill yng Nghymru a oedd wedi gwneud yn dda yn cynnwys y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n cyrraedd y 100 Uchaf am y tro cyntaf. Am y tro cyntaf erioed mae pedwar Heddlu Cymru hefyd wedi ennill lle ar restr Stonewall.
Bydd canlyniadau llawn Cyflogwyr Gorau Stonewall 2012 yn cael eu cyhoeddi mewn derbyniad heno (11 Ionawr) yn Llundain mewn digwyddiad a gynhelir gan Ernst & Young. Bydd llwyddiant cyflogwyr Cymru yn cael ei ddathlu ar 19/01/2012 ym Mhrifysgol Caerdydd.
‘Am y tro cyntaf mae ychydig dros un o bob wyth o’r cyflogwyr mwyaf hoyw-gyfeillgar ym Mhrydain yng Nghymru. Mae’r cyflogwyr hyn yn cynnwys y sector preifat, llywodraeth leol, y trydydd sector ac asiantaethau’r llywodraeth. Yr hyn sy’n eu huno yw ymrwymiad clir i wneud gweithleoedd Cymru yn well i bob aelod o staff, a ddangosir drwy eu haelodaeth weithredol o’n rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth.’ meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru. ‘Fel cyflogwyr sy’n arwain y ffordd maent yn credu bod pobl yn gweithio’n well pan maen nhw yn cael bod yn nhw eu hunain.’
Dywedodd Chris Mills, Cyfarwyddwr, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cymru:
“Unwaith eto rwyf wrth fy modd ac yn falch iawn ein bod wedi cael ein henwi yn gyflogwr gorau Cymru am y bedwaredd flwyddyn o’r bron.
“Mae’n bwysig i ni bod ein staff yn hapus yn eu gwaith a’u bod yn teimlo’n ddigon cyfforddus i fod yn nhw eu hunain yn y gweithle.
“Mae’n anrhydedd cael ein cydnabod gan Stonewall Cymru am y cyflawniad hwn.”
Diwedd
Cyswllt: James Lawrence, Swyddog Cyfathrebu, 020 7593 1857 / 07985 439 660
Nodiadau:
1. Mae astudiaethau achos a chyfweliadau ar gael ar gais
2. Mae rhestr lawn y 100 uchaf ar gael yn http://www.stonewall.org.uk/wei
3. Dyma’r cyflogwyr yng Nghymru a ddaeth uchaf ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2012: Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (16), Lloyds Banking Group (18), Cynulliad Cenedlaethol Cymru (20), Heddlu De Cymru (23), Heddlu Gogledd Cymru (30), Gwasanaeth Erlyn y Goron (45), Cymorth i Ddioddefwyr (45), Prifysgol Caerdydd (49), Cyngor Caerdydd (56) a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (56).
4. Mae gan raglen ymarfer da Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall 600 o aelodau ledled Prydain. Rhyngddynt maent yn cyflogi dros bum miliwn o bobl. Mae aelodau newydd diweddar y rhaglen yn cynnwys Chwaraeon Cymru, Prifysgol Aberystwyth a Chwmni Cyfraith Teulu Wendy Hopkins.
5. Roedd Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003 yn golygu ei bod yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn y gweithle yn erbyn pobl hoyw, a chafodd hyn a deddfwriaeth cydraddoldeb arall eu dwyn ynghyd yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Er gwaethaf y rheoliadau, bydd Stonewall yn derbyn galwadau’n rheolaidd yn ein Gwasanaeth Gwybodaeth gan bobl sy’n wynebu gwahaniaethu yn y gweithle. Gall tribiwnlysoedd cyflogaeth ddyfarnu iawndal amhenodol i bobl sy’n wynebu aflonyddwch yn y gwaith ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol.
6. Stonewall yw’r elusen cydraddoldeb hoyw a sefydlwyd yn 1989. www.stonewall.org.uk
7. Stonewall Cymru yw’r elusen cydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ledled Cymru a sefydlwyd yn 2003. www.stonewallcymru.org.uk
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen