Mewn ymateb i gwestiwn gan Christine Chapman AC, tynnodd y Gweinidog sylw at waith Stonewall Cymru a'i hymdrechion i leihau achosion o fwlio homoffobaidd sy'n effeithio dros 98% o bobl ifanc mewn ysgolion ac sy'n gyfrifol am lefelau cyrhaeddiad addysgol is, diffyg hunan-barch, triwantiaeth a mwy o achosion o broblemau iechyd meddwl.
Canfuwyd ymchwil a gynhaliwyd gan Stonewall bod 98% o bobl ifanc yn clywed sylwadau homoffobaidd yn eu ysgolion ac o'r rhai sy'n cael eu bwlio, roedd 92% wedi dioddef bwlio homoffobaidd ar lafar, 41% yn dioddef bwlio corfforol a 17% bygythiadau marwolaeth.
Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: -
"Mae bwlio yn broblem fawr i nifer fawr o'n pobl ifanc. Mae ein ymchwil yn dangos yn union faint sydd dal i'w wneud yn ein ysgolion i ddangos i'r holl ddisgyblion fod bwlio homoffobaidd yn annerbyniol. Rydym yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog i ddangos arweinyddiaeth gref a chlir yn y mater hwn ".
"Rydym wrth ein bodd gyda'r ymrwymiad at hyfforddiant i athrawon a lywodraethwyr, at ddatblygu canllawiau cynhwysfawr ar bob math o fwlio, gan gynnwys homoffobia, ac yn bennaf oll i ddim goddefgarwch o fwlio homoffobaidd"
"Mae'r Gweinidog wedi datgan ei awydd i weld diwylliant o uchelgais a disgwyliadau mawr yn ysgolion Cymru. Credwn y bydd hyn yn cyrraedd pan fydd pobl ifanc yn perfformio'n well oherwydd gellir bod yn nhw eu hunain heb ofn o fwlio neu aflonyddu ar sail eu rhywioldeb "
13/07/2011
Nodiadau
1. Stonewall Cymru yw’r elusen cydraddoldeb i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ledled Cymru a sylfaenwyd yn 2003. www.stonewallcymru.org.uk <http://www.stonewallcymru.org.uk/>
2. ADRODDIAD YSGOL ac ADRODDIAD ATHRAWON
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â: Andrew White, Cyfarwyddwr ar 02920 237744 neu andrew.white@stonewallcymru.org.uk
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk