Ar ôl i Blaid Geidwadol Cymru; Llafur Cymru; Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Plaid Cymru lansio’u maniffestos ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn 2011, mae Stonewall Cymru heddiw wedi croesawu'r addewidion sy’n ymwneud yn benodol â phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) ym Mhrydain. Ar ôl darllen pob maniffesto’n ofalus, mae Stonewall Cymru wedi llunio rhestr o’r prif addewidion sy’n ymwneud â materion cydraddoldeb a phobl LHD, ac mae’r rheini fel a ganlyn:
“Ac mae angen i bobl LGBT gael eu diogelu’n aml rhag bwlio a throseddau casineb, a hefyd grwpiau lleiafrifoedd eraill - gall pob un ddisgwyl i Lywodraeth Geidwadol yn y Cynulliad siarad drostynt." (Tudalen 17)
.
Diogelu Pobl sy’n Agored i Niwed
“Byddwn yn:
“Yn ystod y tymor nesaf byddwn yn:
“Bydd ein dyletswyddau sector cyhoeddus newydd yn rhoi’r sylfaen gorau ar gyfer sicrhau cydraddoldeb wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus – gan sicrhau bod gwasanaethau yn bodloni anghenion menywod, dynion, pobl anabl, pobl hŷn, pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, y gymuned hoyw a thrawsryweddol a phobl â chredoau crefyddol gwahanol.” (tudalen 76)
“Yn ystod tymor nesaf y Cynulliad byddwn yn:
“Mae’r Cynllun Cydraddoldeb Sengl wedi ymrwymo Llywodraeth y Cynulliad o dan arweiniad Llafur i weithredu egwyddorion dyletswyddau statudol cydraddoldeb rhyw, hil ac anabledd mewn perthynas ag oed, crefydd a chred a dim cred, cyfeiriadedd rhywiol a thrawsrywedd lle y bo'n bosibl." (tudalen 77)
“Ni fyddwch yn colli allan ar sail oed, rhyw, anabledd, crefydd, hil na chyfeiriadedd rhywiol. Nid yw dyddiau economaidd ac ariannol anodd yn esgus i golli gafael ar gydraddoldeb. Rhaid i ni barhau i hyrwyddo cydraddoldeb beth bynnag yw’r amgylchiadau.” (tudalen 21)
“Mae cydraddoldeb yn rhedeg drwy bob agwedd ar ein maniffesto, ond ein hymrwymiadau penodol i wella cydraddoldeb a hyrwyddo amrywiaeth yw:
“Byddwn yn sicrhau bod ysgolion yn amgylchedd diogel a chynhyrchiol ar gyfer pob disgybl trwy:
Er nad oedd gan faniffesto Plaid Cymru gyfeiriadau penodol at gyfeiriadedd rhywiol neu bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol, rydym wedi cael sicrwydd bod cyfeiriadedd rhywiol yn cael ei gynnwys yn y cynlluniau cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb yn eu maniffesto.
I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch Stonewall Cymru ar gyfer yr etholiad: www.stonewallcymru.org.uk/etholiadcymreig2011 neu e-bostio: etholiad@stonewallcymru.org.uk
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen