Mae Stonewall Cymru wedi lansio’r hyn a fydd yn arolwg mwyaf erioed o iechyd dynion hoyw a deurywiol. www.stonewallcymru.org.uk/arolwgiechyd
Bydd yr arolwg yn cwmpasu ystod o faterion yn cynnwys iechyd meddwl, diet a ffitrwydd cyffredinol, cyflyrau iechyd tymor hir a salwch megis clefyd y galon a chanser, a phrofiadau o ddefnyddio gwasanaethau iechyd.
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru: ‘Rydym yn gwybod cryn dipyn am iechyd rhywiol dynion hoyw a deurywiol, ond ychydig iawn, iawn a wyddom am eu hanghenion iechyd ehangach. Dyma gyfle i ddynion hoyw a deurywiol godi llais, gan gyfrannu at yr arolwg iechyd mwyaf erioed o’i fath.’
Mae’r ymchwil yn dilyn astudiaeth arloesol Stonewall Cymru i anghenion iechyd menywod lesbiaidd a deurywiol, Presgripsiwn am Newid, a holodd dros 6,000 o fenywod.
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen