Vaughan Roderick, y blogiwr a’r cyflwynydd gwleidyddol gyda BBC Cymru fydd yn cadeirio’r drafodaeth drawsbleidiol, gyda chynrychiolwyr o’r pleidiau Ceidwadol, Llafur, Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn canolbwyntio ar y ffordd y bydd eu polisïau ar gyfer tymor nesaf y Cynulliad yn effeithio ar bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru “Gyda phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn fwy na 6% o’r etholwyr yng Nghymru, a materion fel bwlio homoffobaidd yn endemig yn ysgolion Cymru, mae etholiadau’r Cynulliad yn gyfle pwysig i sicrhau fod materion cyfeiriadedd rhywiol yn cael eu cynnwys ym mholisïau’r Cynulliad.”
Ychwanegodd “Mae bron i ddwy ran o dair o bobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn dioddef bwlio homoffobaidd yn ein hysgolion ac eto mae dwy ran o dair o staff ysgol uwchradd yn methu ag ymateb yn gyson i fwlio o’r fath. Mae’n hanfodol i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ledled Cymru gael y cyfle i holi beth fyddai ymgeiswyr yn ei wneud i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys a’u cefnogi yn y cartref, yr ysgol a’r gwaith.”
Bydd yr hystings yn rhoi cyfle i etholwyr glywed sut mae bob plaid wedi ymateb i faniffesto etholiad Stonewall Cymru ym maes addysg, gofal iechyd, gwasanaethau cyhoeddus, troseddau casineb a chynrychiolaeth.
Meddai Karen Cooke, Cyd-Gadeirydd Enfys “Rydym yn falch o gefnogi Stonewall Cymru gyda’r digwyddiad hwn, ac yn croesawu pawb i’r Brifysgol. Gobeithio y byddant yn mwynhau’r noson.”
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen