Mae’r pleidlais yn y Senedd ddoe yn golygu Cymru fydd y lle cyntaf yn y D.U. i weithredu’r adran pwysig hwn o’r Ddeddf.
O dan y dyletswyddau bydd angen i gyrff cyhoeddus gosod amcanion cydraddoldeb clir yn dweud sut bydden nhw’n cyflawni ar gyfer pob un nodwedd warchodedig. Bydd angen iddynt weithio gyda chymunedau a chasglu data ar eu perfformiad.
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru “Bydd y dyletswyddau newydd hyn yn gwneud gwahaniaeth i’r miloedd o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ledled Cymru.”
“Mae’r ffaith fod y Dyletswyddau wedi’u pasio’n unfrydol yn anfon neges gadarnhaol iawn, fod Cymru yn deall cydraddoldeb ac yn ei gymryd o ddifrif!”
“Rydym yn falch iawn fod Cynulliad Cymru wedi ymateb mor gadarnhaol i’r holl bobl yn y digwyddiadau Dweud Eich Dweud Stonewall Cymru a ddywedodd eu bod eisiau’r ‘hawl i gael eu cyfrif.’”
Nodiadau
Stonewall Cymru yw elusen cydraddoldeb lesbiaidd, hoyw a deurywiol Cymru gyfan a ffurfiwyd yn 2003. www.stonewallcymru.org.uk
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag: Andrew White, Cyfarwyddwr ar 029 20 237744 neu Andrew.White@stonewallcymru.org.uk
neu Ele Hicks, Swyddog Polisi ar 029 20 237744 neu Eleanor.Hicks@stonewallcymru.org.uk
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen