Mae Stonewall Cymru heddiw yn croesawu penderfyniad Cynulliad Cymru i basio deddfwriaeth bwysig Dyletswyddau Sector Gyhoeddus Penodol i Gymru dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Stonewall Cymru “Bydd y dyletswyddau newydd hyn yn gwneud gwahaniaeth i’r miloedd o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ledled Cymru.”
“Mae’r ffaith fod y Dyletswyddau wedi’u pasio’n unfrydol yn anfon neges gadarnhaol iawn, fod Cymru yn deall cydraddoldeb ac yn ei gymryd o ddifrif!”
“Rydym yn falch iawn fod Cynulliad Cymru wedi ymateb mor gadarnhaol i’r holl bobl yn y digwyddiadau Dweud Eich Dweud Stonewall Cymru a ddywedodd eu bod eisiau’r ‘hawl i gael eu cyfrif.’”
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen