Heddiw mae Stonewall yn croesawu penderfyniad arwyddocaol yn y llys o blaid cwpl hoyw a wrththodwyd ystafell iddynt gan perchnogion gwesty yng Nghernyw.
Roedd partneriaid sifil Martyn Hall a Steven Preddy wedi ceisio archebu ystafell ym mis Medi diwethaf yng Ngwesty'r Chymorvah ger Penzance yng Nghernyw. Defnyddion nhw Rheoliadau Cyfeiriadedd Rhywiol 2007, a sicrhawyd gan Stonewall i atal gwahaniaethu yn erbyn pobl hoyw wrth ddarparu gwasanaethau masnachol a chyhoeddus, i erlyn y perchnogion, Hazelmary Peter Bull.
Dywedodd Ben Summerskill Prif Weithredwr Stonewall: 'Rydym yn falch iawn gyda chanlyniad yr achos prawf hwn. Ni allwch droi pobl i ffwrdd o westy am eu bod nhw'n ddu neu Iddewig ac yn 2011 ni ddylech fod yn gallu eu sarhau nhw trwy troi nhw i ffwrdd ar sail eu bod nhw'n hoyw chwaith.'
'Ni ddylai rhyddid crefyddol gael ei ddefnyddio fel mantell ar gyfer rhagfarn,' meddai Ben Summerskill.'Ar gyfer y tua £ 30,000 talwyd gan Mr Mrs Bull a'u cefnogwyr am yr achos yn ystod y mis diwethaf, gallai Oxfam neu Achub y Plant wedi brechu 100,000 o bobl erbyn llid yr ymennydd yn Affrica Is-Sahara. Byddai hynny wedi bod yn ffordd fwy Gristnogol i wario eu harian yn ystod tymor y Nadolig. '
Cyswllt: Gary Nunn, Swyddog Cyfathrebu, 020 7593 1856 / 07985 439 660
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen