Mae Stonewall yn falch o gyhoeddi iddi benodi Andrew White fel Cyfarwyddwr Stonewall Cymru. Ar hyn o bryd, Andrew yw Pennaeth yr Uned Iechyd a’r Sector Gofal ym Mwrdd yr Iaith Gymraeg.
Dywedodd Ben Summerskill, Prif Weithredwr Stonewall: “Rydym yn falch iawn o benodi rhywun sydd â chefndir a phrofiad Andrew i arwain ein gwaith ledled Cymru.”
Dywedodd Andrew White: “Ers ei sefydlu yn 2003, mae Stonewall Cymru wedi ennill tir sylweddol yng Nghymru. Edrychaf ymlaen at adeiladu ar y gwaith hwnnw a helpu i ddathlu degawd cyntaf o gyflawniadau Stonewall Cymru yn 2013.”
Mae Stonewall Cymru yn ymgyrchu ledled Cymru mewn meysydd fel bwlio homoffobig mewn ysgolion, iechyd a diogelwch cymunedol. Mae hefyd yn cynghori cyflogwyr ar recriwtio a chadw staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Bydd Andrew yn ymuno â’r elusen ym mis Tachwedd fel cyfarwyddwr Stonewall Cymru, yn lle Liz Morgan. Cyn ymuno â Bwrdd yr Iaith Gymraeg, bu Andrew yn gweithio i TMP Worldwide fel Rheolwr Datblygu Busnes Cymru.
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen