Mae Stonewall Cymru, yr elusen cydraddoldeb hoyw, wedi cyhoeddi cynnwys amrywiol ar gyfer y gynhadledd Gweithle cyntaf yng Nghymru. Bydd y gynhadledd, ar ddydd Llun 27 Medi yn y Novotel Caerdydd, yn cynnwys areithiau gan Heddlu Dyfed Powys, IBM, Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyngor Caerdydd.
Cynlluniwyd cynhadledd Cymru i gynorthwyo cyflogwyr i gael y perfformiad gorau gan eu staff lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD). Ymysg y materion a fydd yn cael eu trafod yn y gynhadledd mae sut i ymgysylltu’n effeithiol gyda’r gymuned LHD, beth yw ystyr y Ddyletswydd Gyhoeddus yn Neddf Cydraddoldeb 2010 a’r ffordd y mae’n berthnasol i faterion LHD, sut i reoli unrhyw faterion o ran crefydd a chyfeiriadedd rhywiol, a’r ffordd y gall cyflogwyr bach hyrwyddo cydraddoldeb cyfeiriadedd rhywiol.
Yn ymuno â Stonewall Cymru fel prif siaradwyr mae:
‘Mae’n hanfodol i gyflogwyr ddenu a chadw’r dalent orau ar adegau anodd yn economaidd,’ meddai Dean Lloyd, Swyddog Gweithlu Stonewall Cymru. ‘Mae pobl yn perfformio’n well pan mae modd bod yn agored yn y gwaith, ac mae nifer o ffyrdd y gall cyflogwyr helpu.’
Am fwy o wybodaeth am Gynhadledd Gweithle Stonewall Cymru ewch at www.stonewallcymru.org.uk/cymruconference
Nodiadau
1) Gellir llwytho rhestr 100 Cyflogwr Gorau Stonewall 2010 oddi ar www.stonewall.org.uk/wei. Mae wedi’i seilio ar gyflwyniadau cyflogwyr i’r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle blynyddol, sef ymarfer meincnodi cenedlaethol Prydain sy’n dangos y cyflogwyr gorau ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen