Mae croeso i bobl ddod draw ar gyfer unrhyw ran o’r digwyddiad rhwng 4pm ac 8pm, yn cynnwys galw ar ôl oriau gwaith. Bydd bwyd bys a bawd ar gael am ddim.
Dyma’r cyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol i uno pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol o bob cwr o dde orllewin Cymru gyda darparwyr gwasanaethau i drafod materion lleol.
Ymysg y sesiynau bydd iechyd a gofal cymdeithasol; diogelwch cymunedol a throseddau casineb, addysg a materion gweithle ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ledled Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot.
Bydd Cynghorau Sir, byrddau iechyd, yr heddlu, gwasanaethau tân ac achub a llawer mwy wrth law i glywed yn uniongyrchol am faterion sy’n codi i bobl leol, ac i ymateb.
Meddai swyddog polisi a phrosiectau Stonewall Cymru, Ele Hicks: “Mae’n bwysig i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol lleol gael ffordd o sicrhau nad yw eu hanghenion yn cael eu hesgeuluso mewn ardaloedd lle gwyddom eu bod yn dioddef camwahaniaethu a llai o fynediad at wasanaethau o gymharu gyda’u cymheiriaid heterorywiol.”
Ychwanegodd: “Mae’r digwyddiadau hyn yn ymateb i’r nifer o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol sy’n dweud wrthym nad ydynt yn gwybod sut i godi materion gyda’r darparwyr gwasanaethau, ac sydd yn aml yn teimlo y gall eu materion hwy gael eu hesgeuluso. Mae’r digwyddiad hwn yn wynebu’r bwlch drwy uno pobl i ganolbwyntio ar faterion cyfeiriadedd rhywiol.”
Mae digwyddiadau rhanbarthol eraill yn cael eu trefnu ar gyfer de ddwyrain, gogledd a chanolbarth Cymru ar gyfer 2010/11.
I gofrestru neu am fwy o wybodaeth ewch at: www.stonewallcymru.org.uk/dewudeichdweud; ebost: Eleanor.hicks@stonewallcymru.org.uk neu ffoniwch 02920 237744.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag: Ele Hicks, Swyddog Polisi a Phrosiectau ar 029 20 237744 neu Eleanor.hicks@stonewallcymru.org.uk
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen