Brynle Williams, Aelod Cynulliad Ceidwadol Gogledd Cymru a Gweinidog Materion Gwledig yr Wrthblaid sy’n noddi’r digwyddiad, ac fe fydd yn ei agor yn swyddogol am ganol dydd gyda chefnogaeth Lorraine Barrett, Aelod Cynulliad Llafur De Caerdydd a Phenarth.
Mae prosiect ‘Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri’, a lansiwyd ym mis Ionawr eleni gan yr elusen genedlaethol a Stonewall Cymru, eisoes wedi cynorthwyo nifer o ddioddefwyr troseddau casineb homoffobaidd a thrawsffobaidd i gael nerth i symud ymlaen gyda’u bywydau.
Nod y digwyddiad yw hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r prosiect ymysg aelodau o’r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, a’u hysbysu fod modd siarad gyda rhywun yn gyfrinachol os ydynt yn dioddef effeithiau troseddau casineb. Mae ‘Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri’ yn ceisio cyrraedd at bobl sy’n ansicr at bwy i droi, neu sy’n teimlo’n betrus am siarad am eu profiadau.
Mae nifer o bobl yn gyndyn o wneud cwyn am drosedd, weithiau yn sgil ofn dialedd ac yn aml gan eu bod yn teimlo’n fregus neu dan fygythiad. Mae Cymorth i Ddioddefwyr a Stonewall Cymru yn elusennau annibynnol sy’n helpu dioddefwyr troseddau casineb boed wedi adrodd am y digwyddiad wrth yr heddlu neu beidio.
Gyda chyllid o £50,000 oddi wrth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, mae Cymorth i Ddioddefwyr yn rhoi hyfforddiant arbennig i dîm o staff a gwirfoddolwyr cyfredol, a nifer o recriwtiaid newydd.
Mae’r gefnogaeth yn cael ei addasu i ateb anghenion penodol, gall gynnwys cyngor ar ddiogelwch personol, a gwybodaeth ar sut i ddelio gydag asiantaethau cyfiawnder troseddol. Bydd staff a gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Tystion yn cefnogi dioddefwyr a thystion drwy gydol achos llys, gan gynorthwyo’r rhai sy’n teimlo’n fregus neu dan fygythiad i dderbyn mesurau arbennig yn y llys.
Meddai rhywun a dderbyniodd gymorth ‘Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri’, ond sydd am aros yn ddienw: “Ar ôl cysylltu gyda ‘Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri’ derbyniais gefnogaeth emosiynol a chymorth i wella diogelwch fy nghartref. Hefyd cysylltodd Cymorth i Ddioddefwyr gyda’r cyngor i helpu i drefnu cael ffens newydd i atal y troseddwyr rhag cyrraedd i’r ardd ac achosi mwy o boen meddwl. Rwy’n sicr yn argymell cysylltu gyda Cymorth i Ddioddefwyr, i gael cefnogaeth rhywun arall, i gynorthwyo i symud yn y cyfeiriad iawn”.
Meddai Gaynor McKeown, Rheolwr Rhanbarthol Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, a fydd yn siarad yn y digwyddiad: “Gyda’n profiad o helpu dioddefwyr troseddau casineb, gwyddom am y niwed y gall ei achosi. Mae nifer o bobl yn gyndyn o gwyno am y troseddau, ond gobeithiwn y bydd y digwyddiad hwn yn cyrraedd at aelodau o’r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol, a’u hysbysu ein bod ar gael os ydynt yn dioddef trosedd casineb. Ni ddylid dioddef yn dawel, ac fe fyddwn yn eu grymuso i wneud penderfyniadau sy’n iawn iddynt hwy.”
Os ydych wedi dioddef trosedd casineb homoffobaidd neu drawsffobaidd, ffoniwch linell gymorth ‘Dydy Trosedd Ddim yn Ddigri’ ar 0845 6 121 900.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Gaynor McKeown Rheolwr Rhanbarthol Cymorth i Ddioddefwyr Cymru
Ffôn: 01492 584962
Ebost: gaynor.mckeown@victimsupport.org.uk
Jenny Porter Swyddog Cyswllt Cymunedol Stonewall Cymru
Ffôn: 01492 622202 / 07958137350
Ebost: jenny.porter@stonewallcymru.org.uk
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen