Bydd y digwyddiad diwrnod o hyd, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, yn darparu cyfle i gyflogwyr ledled Cymru a gweddill Prydain weld enghreifftiau o arferion blaengar y cyflogwyr gorau er mwyn creu amgylchedd gwaith cynhwysol ar gyfer eu staff Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys anerchiadau gan siaradwyr proffil uchel. Hefyd bydd cyfres o sesiynau am destunau a nodwyd fel meysydd allweddol ar gyfer datblygiad ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall 2010, a chyflwyniadau gan rai o’r 100 Prif Gyflogwr a ddangosodd arfer da yn y meysydd hyn. Bydd y sesiynau yn cynnwys meysydd allweddol polisi ac arfer, megis Grwpiau Rhwydwaith Gweithwyr LHD, Crefydd a Chyfeiriadedd Rhywiol, ac ymgysylltiad cymunedol.
Am fwy o wybodaeth neu i ddangos diddordeb, cysylltwch â Dean Lloyd ar 02920 237 761 neu anfonwch ebost at dean.lloyd@stonewallcymru.org.uk
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen