Meddai Rhian Keyse, Swyddog Addysg ac Ieuenctid Stonewall Cymru: “Dengys ymchwil Stonewall bod bwlio homoffobaidd bron yn epidemig yn ysgolion Prydain. Mae’n amlwg bod pobl ifanc yn cael eu heffeithio’n uniongyrchol gan fwlio homoffobaidd, ac felly mae’n gwneud perffaith synnwyr eu bod yn ganolog wrth ei daclo. Rydym yn falch o fedru gweithio gyda phobl ifanc yn y ffordd hon i’w harfogi gyda’r sgiliau, gwybodaeth a hyder angenrheidiol i arwain eu hymgyrchoedd gwrth fwlio homoffobaidd eu hunain, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu cymunedau lleol”.
Bydd gwirfoddolwyr 16-25 oed yn cael eu hachredu ar gynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm ac yn cynnal ystod o ymgyrchoedd, o gyflwyniadau mewn ysgolion i weithio gydag awdurdodau lleol i herio bwlio homoffobaidd.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Ele Hicks, Swyddog Polisi a Phrosiectau ar 02920 237744 neu eleanor.hicks@stonewallcymru.org.uk
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen