Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi gweld cynnydd o 100% yn nifer yr erlyniadau llwyddiannus o ddiffynyddion homoffobaidd yn ystod y 2 flynedd ers 2006, datgelodd Stonewall Cymru yn eu cynhadledd flynyddol yn Llandudno.
Dengys ystadegau a ryddhawyd gan y pedwar Heddlu yng Nghymru bod cynnydd cyson yn y nifer o achosion o droseddau casineb homoffobaidd sy’n cael eu dilyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron, er nad oes cynnydd sylweddol mewn adroddiadau wrth yr heddlu.
Meddai Chris Woolley, Cadeirydd Grŵp ar gyfer Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru, “Mae’r cynydd o 100% mewn erlyniadau llwyddiannus yn newyddion ardderchog ar gyfer y gwasanaeth a phobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) yng Nghymru. Dengys yr ystadegau ein bod yn symud yn y cyfeiriad cywir, er bod tipyn o waith i’w wneud o hyd er mwyn sicrhau bod pob person lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn teimlo’n ddigon hyderus i gwyno am y troseddau niweidiol hyn. Ond bydd ein gwaith yn parhau gyda’n partneriaid yn yr heddlu a Stonewall Cymru i wella’r amodau er mwyn i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ddod ymlaen.
Mae’r amgylchedd ar gyfer dioddefwyr a thystion wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, gydag Unedau Gofal Tystion arbenigol yn cael eu sefydlu ledled Cymru. Bellach mae asesiadau anghenion yn cael eu cynnal ar gyfer pob dioddefwr a thyst, a gall yr Erlyniad wneud cais am fesurau arbennig gan y llys, a fedrai olygu bod modd aros yn ddi-enw neu roi tystiolaeth drwy gyswllt fideo.
Hefyd ymunodd Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru gyda rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Cymru yn ddiweddar. Mae bron i 500 o sefydliadau Prydeinig ledled bob sector busnes a gwasanaeth cyhoeddus yn gweithio gyda Stonewall, a’i gilydd, er mwyn datblygu amrywiaeth ac arfer da ar gyfer cyfeiriadedd rhywiol yn y gweithle. ‘Mae pobl yn perfformio’n well pan mae modd iddynt fod yn agored.’ Dangoswyd bod hyn yn wir mewn arolwg llynedd o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ledled y DU, a ddywedodd eu bod wedi’u hysgogi i weithio a chyflawni mwy os oedd ethos y gweithle yn eu cynnwys yn weithredol.
Meddai Jenny Porter, Swyddog Cyswllt Cymunedol Stonewall Cymru, “Mae hyn yn newyddion da i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru. Mae’r ffaith bod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn ymuno gyda rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth Stonewall Cymru yn dangos ymrwymiad at sicrhau gweithle cynhwysol ar gyfer bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ac mae’r cynydd o 100% mewn erlyniadau llwyddiannus o ddiffynyddion homoffobaidd yn dangos llwyddiant aruthrol ers 2006.
“Gobeithio y bydd y newyddion ardderchog hwn yn annog pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol ledled Cymru i gwyno wrth yr heddlu am ddigwyddiadau homoffobaidd, ac i deimlo’n hyderus y bydd y System Cyfiawnder Troseddol yn eu ddilyn bob cam o’r ffordd.”
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen