Canfu ‘Stigma Dwbl’, ymchwil gan Stonewall Cymru mewn partneriaeth â mudiadau iechyd meddwl, nad oes gan wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru ddigon o arian nac adnoddau i ddelio gyda materion lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD). Mae’r astudiaeth gyntaf erioed i’w chynnal yng Nghymru yn datgelu’r stigma dwbl sy’n wynebu pobl LHD â materion iechyd meddwl. Mae’r stigma dwbl hwn yn deillio o agweddau rhagfarnllyd cymdeithas tuag at faterion iechyd meddwl a phobl sy’n lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol. Roedd profiadau o gamwahaniaethu yn debygol o gael effaith negyddol ar iechyd meddwl a lles; yn arbennig wrth ddod allan fel LHD, beth bynnag yr oed. Soniodd nifer o’r ymatebwyr am y ‘stigma dwbl’ hwn yn effeithio ar eu bywydau bob dydd, er enghraifft o ran y ffordd yr oedd eraill yn eu trin, a lefel eu hymgysylltiad gyda’r gymuned yn gyffredinol a bywyd LHD.
Canfyddiadau allweddol:
Meddai Liz Morgan, Cyfarwyddydd Stonewall Cymru: “Mae llawer o waith i’w wneud o hyd i wella bywydau a chynhwysiad pobl LHD â materion iechyd meddwl yng Nghymru. Gobeithiwn y bydd ein canfyddiadau yn arwain a fwy o ddeialog a chydweithio rhwng darparwyr arbenigol LHD a gwasanaethau iechyd meddwl ledled Cymru. Yn y modd hwn, gellir chwalu mythau, ac o ganlyniad gellid darparu gwasanaethau priodol i anghenion pobl LHD â materion iechyd meddwl.”
Dan nawdd Helen Mary Jones AC, bydd yr adroddiad yn cael ei lansio heddiw yn y Senedd, Bae Caerdydd, gydag areithiau gan y tîm ymchwil a’r dyfarnwr rygbi rhyngwladol, Nigel Owens.
Sylwadau gan bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn yr ymchwil:
“Rwy’n credu bod gan fy ymgynghorydd preifat agwedd geidwadol at gyfunrywioldeb, sy’n gwneud i mi deimlo’n anghysurus yn datgelu gwybodaeth am fy hun. Wedi bod yn agored gyda hi, cododd problem cyfrinachedd, ac mae hi’n credu bod fy mywyd preifat yn rheswm dros fy mhroblemau iechyd meddwl”, Glen.
“Roedd uwch nyrs fenywaidd, fy ngweithiwr allweddol personol pan yn glaf mewn ysbyty seiciatryddol GIC, yn gwrthod parhau i weithio gyda mi wedi i’m mam sôn mewn sgwrs fy mod yn hoyw.”, Sarah.
“Ychydig iawn o ddarparwyr gwasanaeth sy’n deall hyn...Rwy’n straffaglu i ddangos bod fy rhywioldeb a’m perthynas gyfredol mewn gwirionedd yn feysydd o hyder a sicrwydd i mi, a bod fy iselder mewn gwirionedd yn gysylltiedig â ffactorau hollol wahanol i’m perthynas a’m rhywioldeb.”, Alison.
Cyswllt:
Megan Evans megan.evans@stonewallcymru.org.uk 02920 237744
Eleanor Hicks eleanor.hicks@stonewallcymru.org.uk 02920 237744
Am fwy wybodaeth cliciwch yma.
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen