Mae ymchwil gan Stonewall Cymru a Triongl Cymru yn datgelu bylchau difrifol yn narpariaeth tai ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD). Datgelodd yr ymchwil bod homoffobia yn ffactor sylweddol mewn problemau cartrefedd, ac eto bod diffyg ymwybyddiaeth o anghenion cartrefedd LHD ymysg darparwyr tai. Trafodir adroddiad 'Anghenion Cartrefedd Pobl Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol yng Nghymru' yng Nghynhadledd Flynyddol Stonewall Cymru ar ddydd Sadwrn 8 Ebrill yn Neuadd y Sir, Caerdydd. Bydd yr adroddiad yn cael ei lansio yn yr haf.
Meddai Dr Alison Parken, Cyfarwyddydd, Stonewall Cymru, 'Dengys yr ymchwil mor fregus mae pobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol sydd wedi cael eu taflu allan o'u cartrefi yn sgîl 'dod allan' i aelodau'r teulu. Mae nifer yn teimlo na fedrant drafod eu rhesymau dros fod yn ddigartref gan eu bod yn ofni camwahaniaethu pellach, ac efallai y tybir, o ganlyniad, eu bod wedi gwneud eu hunain yn ddigartref yn fwriadol. O'r pwynt hwnnw ymlaen nid oes ganddynt ffordd o gyrraedd at gymorth.'
Wrth son am ei brofiadau, meddai ymatebydd o ganolbarth Cymru, 'Rydych yn dweud wrth rywun eich bod yn hoyw ac efallai bod y person hwnnw yn llawn cydymdeimlad, ond efallai nad felly'r person nesaf yr ydych yn ymdrin â nhw ac fe fydd yn mynd yn eich erbyn.'
Ychwanegodd Dr Parken, 'Rydym yn galw ar awdurdodau lleol, landlordiaid a darparwyr tai eraill i ddangos polisi 'dim goddefgarwch' ar homoffobia a chyflwyno polisi cynhwysfawr sydd yn edrych ar anghenion penodol pobl LHD.'
Meddai Dr Dani Boucher, Cyd-lynydd Triongl Cymru yn y De Ddwyrain, 'Y cam nesaf, yn dilyn yr ymchwil hwn, yw datblygu'r offer a rhaglen hyfforddiant a fydd yn galluogi darparwyr gwasanaethau tai i adnabod a wynebu anghenion pobl LHD yng Nghymru.'
Thema Cynhadledd Stonewall Cymru yw 'Ydych Chi'n Derbyn Gwasanaeth? - Triniaeth Deg ym Myd Iechyd, Cartrefi, Addysg a Chyflogaeth' ac mae Stonewall Cymru yn gwahodd pobl LHD yng Nghymru i drafod sut i ddefnyddio darpariaethau newydd yn y Mesur Cydraddoldeb, sy'n diogelu rhag camwahaniaethu wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau, yng Nghymru. Bydd hefyd yn gyfle i ddathlu'r newidiadau deddfwriaethol enfawr o ran cydraddoldeb lesbiaidd, hoyw a deurywiol dros y 4 blynedd diwethaf, gan gynnwys:
Am fwy o fanylion ynglŷn â'r gynhadledd, ac er mwyn archebu'ch lle, ewch at www.stonewallcymru.org.uk neu ffoniwch 029 20 237744
Nodiadau ar gyfer Golygyddion
1. Am fwy o wybodaeth yngŷln â chyfweliadau ac astudiaethau achos cysylltwch â Matthew Batten ar matthew.batten@stonewallcymru.org.uk neu ffoniwch 029 20 237744. Neu Dani Boucher ar daniboucher@gwalia.com neu ffoniwch 029 20 453030
2. Stonewall Cymru yw grŵp ymgyrchu Cymru ar gyfer pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. www.stonewallcymru.org.uk
3. Mae'r Mesur Cydraddoldeb yn diogelu pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol rhag camwahaniaethu wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau, a bydd yn cael ei weithredu erbyn Hydref 2006.
Sylwadau am y dudalen