Heddiw lansiodd Stonewall Cymru brosiect er mwyn codi ymwybyddiaeth o Reoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2003 ar gyfer holl ddarparwyr Gwybodaeth a Chyngor yng Nghymru. Bydd y prosiect yn cynorthwyo pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru i gael y cyngor sydd ei angen arnynt, gwella safon y cyngor sydd ar gael iddynt, a goresgyn rhwystrau er mwyn sicrhau cyfiawnder.
Dangosodd ymchwil bod diffyg ymwybyddiaeth ynglyn â hawliau cyflogaeth ymysg pobl Cymru, a’u bod yn llai tebygol o fod yn llwyddiannus nag ardaloedd eraill o’r DG wrth geisio cael cymorth a chyllid i herio camwahaniaethu ar sail anabledd, hil neu ryw.
Meddai Federico Podeschi, Swyddog Cyfraith Camwahaniaethu Stonewall Cymru: “Mae nifer o bobl sydd wedi dioddef camwahaniaethu yn penderfynu peidio cwyno wrth eu cyflogwyr gan eu bod yn ofni cael eu diswyddo a methu dod o hyd i swydd arall. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos pobl hoyw, lesbiaidd a deurywiol, sydd, am nifer o resymau, yn teimlo y byddai datgelu eu cyfeiriadedd rhywiol yn arwain at gamdriniaeth pellach”.
Mae deddfwriaeth Cyfeiriadedd Rhywiol yn weddol newydd, ond mae hawlio’n diweddar o wahaniaethu yn dangos bod pobl yn dechrau sefyll i fyny am eu hawliau yn debyg i'r ffrydiau wahaniaethu arall.
Bydd Stonewall Cymru yn gweithio gyda phartneriaid yn CCC Cymru, CHA Cymru, a CCH Cymru ar gynllun ‘trosglwyddo arbenigedd’, gan gynnig hyfforddiant a chyngor er mwyn cynorthwyo canolfannau Cyngor ar Bopeth, Undebau Llafur, ACAS, ymgynghorwyr busnes a sefydliadau eiriolaeth eraill i edrych ar fylchau sylweddol yng ngwybodaeth a dealltwriaeth pobl o’r rheoliadau cyflogaeth.
Bydd Stonewall Cymru hefyd yn cynnig cefnogaeth uniongyrchol i bobl sydd yn teimlo eu bod wedi dioddef camwahaniaethu. Mae gwasanaeth cynghori penodol ar gael ar gyfer gwybodaeth a chefnogaeth er mwyn asesu eu hamgylchiadau. Bydd cyngor ar ddwyn achosion Cyfraith Camwahaniaethu gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth yn cael ei gyflawni gyda chymorth rhwydwaith o bobl broffesiynol sydd yn arbenigo yn y maes hwn.
Ceir mwy o wybodaeth ar Gyfraith Camwahaniaethu neu am brosiect newydd Stonewall Cymru ar Yma (neu Yma am y fersiwn Saesneg) neu cysylltwch â Federico Podeschi (Swyddog Cyfraith Camwahaniaethu) ar 029 20237749.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Federico Podeschi, Swyddog Cyfraith Camwahaniaethu, (029 20237749 / 07852 211793) neu Alison Parken, Cyfarwyddydd (029 20237744)
Ymholiadau’r cyfryngau tu hwnt i oriau swyddfa: 07985 439 660.
Nodiadau
1. Stonewall Cymru yw grwp cydraddoldeb lesbiaidd, hoyw a deurywiol Cymru gyfan. Mae aelodau sylfaenol yn cynnwys Syr Ian McKellen. www.stonewallcymru.org.uk
2. Ymchwil: Lansiwyd “Snakes and Ladders” gan Gomisiwn Hawliau’r Anabl, Comisiwn Cydraddoldeb Hil, a’r Comisiwn Cyfle Cyfartal yng Nghymru ar 19 Mawrth 2003. Disgrifiwyd Cymru gan yr adroddiad fel "anialwch o ran cyngor".
Sylwadau am y dudalen