Mae Stonewall Cymru a TUC Cymru yn lansio fersiwn wedi'i ddiweddaru o 'Camwahaniaethu yn y gweithle - byth eto', canllaw i'r cyflogedig ar reoliadau cyflogaeth 2003 ynglŷn â chyfeiriadedd rhywiol yn y gweithle.
Ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, mae'r canllaw yn rhoi gwybodaeth sylfaenol angenrheidiol i'r cyflogedig am y rheoliadau sy'n eu hamddiffyn yn y gweithle, yn eu hysbysu am eu hawliau ac yn eu cynghori beth i'w wneud os ydynt yn profi problemau.
'Rydym yn falch iawn o gael gweithio gyda TUC Cymru ar y fenter bwysig hon,' meddai Dr Alison Parken, Cyfarwyddydd Stonewall Cymru. 'Mae'n hanfodol i bobl cyflogedig lesbiaidd, hoyw a deurywiol ddeall nad oes yn rhaid iddynt ddioddef triniaeth annheg yn y gweithle bellach.'
'Nid yw camwahaniaethu yn y gweithle wedi dod i ben eto ar gyfer gweithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru. Mae'r undebau yn cynghori a chefnogi gweithwyr ledled Cymru bob dydd. Mae un o bob pump person lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn dweud eu bod wedi dioddef aflonyddu o achos eu cyfeiriadedd rhywiol. Gobeithiwn y bydd y canllaw hwn o gymorth i leihau y niferoedd syfrdanol hyn," meddai Felicity Williams, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.
Meddai'r Gweinidog dros Gydraddoldeb, Jane Hutt: "Gobeithio y bydd y canllaw diweddar hwn yn annog pobl cyflogedig lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol i godi'u llais neu chwilio am gefnogaeth oddi wrth eu Hundeb Llafur os ydynt yn teimlo eu bod yn dioddef camwahaniaethu yn y gweithle o achos eu rhywioldeb. Mae gan bob person cyflogedig hawl i ddisgwyl triniaeth deg yn y gweithle. Mae materion cydraddoldeb hoyw, lesbiaidd a deurywiol yn flaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth y Cynulliad, a dyma pam yr wyf yn croesawu'r daflen newydd hon."
Bydd 140,000 copi o'r daflen syml, ddefnyddiol hon yn cael eu dosbarthu ledled Prydain. Byddant yn cael eu dosbarthu drwy undebau i lyfrgelloedd, Canolfannau Cyngor Ar Bopeth, a safleoedd cymunedol hoyw. Bydd y daflen hefyd ar gael drwy linell ffôn 'Adnabod eich Hawliau' y TUC, 0870 600 4882.
Mae undebau llafur yn trafod gyda chyflogwyr am gyflogau ac amodau ac maent hefyd yn cynghori a chefnogi pobl pan fo angen. Mae gan nifer o undebau eu gr?p LHD eu hunain hefyd. Er mwyn dod o hyd i'r undeb iawn ewch at wefan workSMART y TUC http://www.worksmart.org.uk/
Gall Stonewall Cymru ddarparu cyngor i bobl sydd yn teimlo eu bod wedi dioddef camwahaniaethu yn y gweithle. Ewch Yma am fwy o wybodaeth.
Er mwyn gweld y canllaw arlein neu gael gwybod mwy am fentrau Stonewall Cymru yn y gweithle ewch Yma
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Matthew Batten, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus, 029 2023 7744, Federico Podeschi, 029 2023 7744 neu Derek Walker, TUC Cymru, 029 2034 7010
Nodiadau
1. Stonewall Cymru yw grŵp cydraddoldeb lesbiaidd, hoyw a deurywiol Cymru gyfan. www.stonewallcymru.org.uk
2. TUC Cymru yw llais Cymru yn y gweithle. Mae aelodau-undebau yn cynrychioli bron i hanner miliwn o bobl sy'n gweithio.
3. Daeth Rheoliadau Cydraddoldeb Cyflogaeth (Cyfeiriadedd Rhywiol) i rym ar 1af Rhagfyr 2003.
Sylwadau am y dudalen