Mae Stonewall Cymru yn croesawu adroddiadau'r wasg heddiw bod gweinidogion wedi penderfynu peidio â chaniatáu i asiantaethau mabwysiadu Catholig gael eu heithrio o'r deddfau camwahaniaethu newydd.
Meddai Liz Morgan, Cyfarwyddydd Dros Dro Stonewall Cymru: 'Rydym wrth ein boddau bod y Llywodraeth wedi penderfynu peidio caniatáu eithriad. Byddai'r eithriadau yr oedd Cardinal Cormac Murphy-O'Connor ac eraill yn ei hawlio wedi rhwystro rhai o bobl ifanc mwyaf bregus Prydain rhag cael cartref cariadus, yn ogystal â chreu stigma o amgylch rhieni lesbiaidd a hoyw a'r nifer fawr o blant sy'n cael eu magu ganddynt mewn teuluoedd sefydlog, cariadus. Dyma fuddugoliaeth i oddefgarwch dros ragfarn.'
Nodiadau
(1) Bydd y rheoliadau cyfeiriadedd rhywiol yn gwneud camwahaniaethu yn anghyfreithlon wrth ddarparu nwyddau a gwasanaethau, gan gynnwys gofal iechyd, gwestai ac yswiriant. Dywed y Llywodraeth y bydd y diogelwch newydd yn weithredol yn Ebrill 2007.
(2) Roedd Cardinal Cormac Murphy-O'Connor wedi bygwth cau eu hasiantaethau mabwysiadu oni bai bod y Llywodraeth eu heithrio rhag y rheoliadau.
Sylwadau am y dudalen