Herio Troseddau Casineb Homoffobaidd yng Nghymru yw'r mater allweddol yng Nghynhadledd Flynyddol Stonewall Cymru yn Abertawe'r mis nesaf.
Ymysg y siaradwyr bydd cynrychiolwyr o Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chymorth i Ddioddefwyr, a fydd yn tynnu sylw at y gwaith cadarnhaol sy'n cael ei wneud i herio troseddau casineb homoffobaidd yng Nghymru.
Meddai Jenny Porter, Swyddog Cyswllt Cymunedol Stonewall Cymru, "Rhaid cymryd troseddau casineb homoffobaidd o ddifrif yng Nghymru. Rhwng Ebrill 2005 a 2006 adroddwyd am cyn lleied â 500 o droseddau casineb homoffobaidd yng Nghymru, a 25 o achosion yn unig a gafodd eu herlyn yn llwyddiannus."
"Gobeithiwn y bydd y Gynhadledd yn annog mwy o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol i adrodd wrth yr heddlu am droseddau casineb homoffobaidd, a'u hysgogi i weithio gyda'r Heddlu i wella'u diogelwch yn eu cymuned lleol."
Hefyd bydd gweithdai yn edrych ar ffyrdd y gall yr Heddlu a'r gymuned lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) gydweithio i wella diogelwch cymunedol.
Cynhelir y Gynhadledd dydd Sadwrn, 31 Mawrth, 11.30am - 5.30pm, yng Nghanolfan Dylan Thomas, Abertawe.
Er mwyn cofrestri ar gyfer y Gynhadledd ewch at www.stonewallcymru.org.uk/conference2007neu cysylltwch ag Ele Hicks
ar Cymru@stonewall.org.uk neu ffoniwch 029 2023 7744.
Astudiaethau Achos
Ydych chi wedi dioddef trosedd casineb homoffobaidd?
A fyddech yn fodlon rhannu eich profiadau a chynorthwyo i hybu ein gwaith ymgyrchu a lobïo?
Os ydych chi wedi profi trosedd casineb homoffobaidd, hoffem gadw cofnod o'ch stori. Yn achlysurol iawn, a gyda'ch caniatâd yn unig, gallwn gynnig eich stori i'r cyfryngau er mwyn tynnu sylw at y materion sy'n wynebu cymunedau LHD.
Am fwy o wybodaeth ewch at y ffurflen astudiaeth achos, lle gallwch adael i ni wybod pa fath o waith gyda'r cyfryngau y buasech yn gysurus yn ei wneud.
Sylwadau am y dudalen