Mae Stonewall Cymru wrth eu bodd gyda phleidlais Tŷ'r Arglwyddi yn hwyr neithiwr dros gyflwyno amddiffyniad newydd rhag camwahaniaethu yn erbyn pobl hoyw.
Pleidleisiodd Arglwyddi o 168 pleidlais i 122 o blaid y rheoliadau, rhan o'r Ddeddf Cydraddoldeb newydd, a fydd nawr yn cael ei gyflwyno ar 30 Ebrill. Bydd yn gwneud camwahaniaethu yn erbyn pobl lesbiaidd a hoyw yn anghyfreithlon wrth ddarparu gwasanaethau o ofal iechyd i ystafelloedd gwesty.
Meddai Matthew Batten, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus Stonewall Cymru: "Rydym yn falch iawn bod yr arglwyddi wedi cefnogi cydraddoldeb i bobl lesbiaidd a hoyw mor bendant. Roedd yr ymgyrch sarhaus, ariannog, i wrthwynebu'r amddiffyniad hwn, sydd dirfawr ei angen, wedi disgyn i safon annymunol iawn, fel y gwelwyd ger y Senedd ddoe gyda phlant bach chwech, saith ac wyth oed yn cael eu gwthio i chwifio arwyddion gwrth-hoyw. Mae wedi ein hatgoffa am y rhagfarn sy'n parhau i fodoli ym Mhrydain ac yn fwy o dystiolaeth o'r angen am yr amddiffyniad newydd hwn."
"Edrychwn ymlaen at weld y rheoliadau yn dod i rym. Byddant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl lesbiaidd a hoyw yng Nghymru."
Mae Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb (Cyfeiriadedd Rhywiol) 2007 yn ei gwneud yn anghyfreithlon camwahaniaethu wrth ddarparu nwyddau, adnoddau a gwasanaethau ar sail cyfeiriadedd rhywiol. Mae asiantaethau mabwysiadu wedi'u heithrio rhag y rheoliadau hyd at Rhagfyr 2008. Cyflwynodd Stonewall y gwelliannau drafft am y newidiadau hyn am y tro cyntaf ym Mawrth 2005.
Sylwadau am y dudalen