Mae Stonewall Cymru yn cynnal sgwrs fyw ar y we ar gyfer pobl ifanc lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) sy'n dioddef aflonyddu homoffobaidd. Bydd modd i bobl ifanc sgwrsio gyda Cymru Ddiogelach, Uned Cefnogaeth Lleiafrifoedd ac Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh am eu profiadau o ddelio gyda chamdriniaeth gwrth-hoyw, a derbyn cyngor am godi hyder a datblygu sgiliau i'w cadw'u hunain yn ddiogel.
Bydd y sgwrs fyw ar y we yn cael ei chynnal ar ddydd Iau 29 Mawrth rhwng 1pm a 7pm gyda Canllaw Online ar www.wise1520.info
Meddai Matthew Batten, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus Stonewall Cymru, "Mae pobl ifanc yn aml yn dioddef camdriniaeth ar lafar neu'n gorfforol o achos eu rhywioldeb, neu gan bod rhywun yn meddwl efallai eu bod yn hoyw, ond ychydig iawn o bobl sy'n gwybod ble i droi am gyngor a chefnogaeth."
"Bydd yr ystafell sgwrsio 'Gofod Diogel' yn rhoi cyfle i bobl ifanc rannu profiadau a derbyn cyngor cyfrinachol am ddelio gyda chamdriniaeth gwrth-hoyw. O achos natur anffurfiol yr ystafelloedd sgwrsio mae pobl ifanc yn aml yn teimlo'n fwy cysurus yn sgwrsio ar-lein yn hytrach na wyneb yn wyneb neu ar y ffôn."
Meddai Mark Williams, Cydlynydd Herio Homoffobia gyda Cymru Ddiogelach, "Credwn fod teimlo'n ddiogel yn hawl dynol sylfaenol. Ni ddylai unrhyw un ofni camdriniaeth neu ymosodiad o achos eu hunaniaeth. Ein nod yw i bob aelod o'r gymdeithas deimlo'n ddiogel, ac felly'n hyderus, ym mhob agwedd o'u bywydau."
Meddai Sarah Ward, llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh: "Mae Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh yn credu y gellir lleihau'r perygl i ddiogelwch personol drwy ddilyn ychydig o gyngor syml. Drwy'r cyfrwng hwn gallwn ledaenu neges am y ffordd y gall bobl LHDT fyw eu bywydau yn rhydd rhag trais a chasineb."
Meddai Lynne Thomas, Pennaeth Cynnwys, Systemau a Chyfathrebu Canllaw Online, 'Mae Canllaw Online wrth eu bodd yn gweithio eto gyda Stonewall Cymru ar sgwrs fyw ar y we. Mae'r ystafell sgwrsio WISE1520 wedi'i arolygu'n llawn ac yn darparu amgylchedd diogel a chroesawgar i bobl ifanc gyrraedd at wybodaeth hanfodol a holi cwestiynau pwysig iddynt."
Roedd sgwrs gyntaf Stonewall Cymru yn fyw ar y we yn ystod Wythnos Gwrth-Fwlio mis Tachwedd diwethaf yn lwyddiant ysgubol gyda dros 20 o bobl ifanc yn logio ymlaen i gael cyngor ar ddelio gyda bwlio homoffobaidd. Roedd y gwesteion yn cynnwys ChildLine a Llinell Gymorth LHDT Cymru.
Sut i gyfranogi
I gyrraedd at yr 'Ystafell Sgwrsio' rhaid i chi gofrestru ar wefan Wise1520.
Yna rydych yn barod i logio i mewn a mynd at y sgwrs.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Lynne ar Lynnethomas@canllaw-online.com neu ffoniwch 029 2088 7868. Neu cysylltwch â Matthew Batten ar 029 2023 7744 neu anfonwch ebost at matthew.batten@stonewall.org.uk
Sylwadau am y dudalen