Datgelodd arolwg sylweddol o ysgolion uwchradd Prydain bod bron i ddwy ran o dair o ddisgyblion lesbiaidd a hoyw (156,000 o blant) wedi dioddef bwlio homoffobaidd.
Mae'r Adroddiad Ysgol, yr arolwg mwyaf erioed o bobl ifanc hoyw i'w chynnal yn y wlad hon, yn cyflwyno darlun syfrdanol o'r ystod o fwlio homoffobaidd sy'n digwydd gan gyd-ddisgyblion ac, yn frawychus, staff ysgolion.
Canfyddiadau allweddol:
Mae'r arolwg o 1,145 o bobl ifanc, a gynhaliwyd gan Uned Addysg Iechyd Ysgolion ar gyfer Stonewall, hefyd yn tynnu sylw at ganlyniadau bwlio ar gyfer disgyblion hoyw. Dywed saith allan o ddeg o'r rhai sydd wedi dioddef ei fod wedi effeithio'n andwyol ar eu gwaith ysgol. Dywed hanner y rhai a gafodd eu bwlio iddynt golli diwrnodau ysgol o ganlyniad.
"Dylai'r ffigurau hynod ddifrifol hyn ddeffro pawb sy'n gweithio ym myd addysg," meddai Matthew Batten, Swyddog Polisi Stonewall Cymru. "Dyma ganlyniad damniol Adran 28, a ataliodd ysgolion rhag taclo bwlio gwrth-hoyw cyhyd. Mae'n parhau i fod yn un o'r mathau prin o fwlio nad yw nifer o ysgolion yn ei daclo. Mae'n effeithio nid yn unig ar fywydau plant hoyw, ond hefyd ar filoedd o blant sy'n cael eu tybio eu bod yn lesbiaidd neu hoyw."
Mae'r adroddiad yn dangos buddiannau sylweddol pan fo ysgolion yn ymyrryd. Yn yr ysgolion sydd wedi dweud bod bwlio homoffobaidd yn anghywir, mae pobl ifanc hoyw 60 y cant yn fwy tebygol o beidio â chael eu bwlio. Mae'r enghreifftiau o fwlio gwrth-hoyw yn parhau i fod yn uwch mewn 'ysgolion ffydd'.
Ychwanegodd Matthew Batten "Gwyddom yng Nghymru bod nifer o athrawon am wneud yr hyn sy'n iawn drwy daclo bwlio homoffobaidd, ond maent yn teimlo nad oes ganddynt yr offer i wneud hynny neu maent yn poeni na fyddant yn derbyn cefnogaeth cydweithwyr uwch. Mae ysgolion ac awdurdodau lleol sy'n cyfranogi yn ein ymgyrch Addysg i Bawb yn sylweddoli bod modd iddynt wneud gwahaniaeth gwirioneddol."
Meddai pobl ifanc hoyw yng Nghymru sy'n dioddef bwlio homoffobaidd:
"Fedra i ddim dweud wrth unrhyw un oherwydd, yn y bôn, does neb yn gwybod mod i'n hoyw… Cefais fy nharo yn y cyntedd heddiw er enghraifft, a fedra i ddim dweud wrth athro oherwydd bydd hynny'n golygu dod allan." Nick, 14, ysgol uwchradd (Cymru)
"Cefais fy mygwth gan frawd cyfaill un tro drwy neges uniongyrchol, gan ddweud y byddai'n fy nghuro i farwolaeth ar y stryd petai yn fy ngweld, neu'n llosgi fy nhŷ tra mod i'n cysgu yno." Sean, 16, ysgol uwchradd (Cymru).
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad (yn Saesneg yn unig).
Sylwadau am y dudalen