Taclo troseddau casineb homoffobaidd yng Nghymru yw thema allweddol pumed cyfarfod blynyddol Stonewall Cymru yn yr Eisteddfod.
Bydd siaradwyr o Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Chymorth i Ddioddefwyr yn tynnu sylw at waith cadarnhaol sy'n cael ei wneud i daclo troseddau casineb homoffobaidd, a byddwn yn archwilio'r arfer gorau i gefnogi pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) sy'n dioddef trosedd casineb.
Meddai Jenny Porter, Swyddog Cyswllt Cymunedol Stonewall Cymru, "Dyma 5ed blwyddyn Stonewall yn yr Eisteddfod, ac mae gennym hanes balch o fod "Allan ar y Maes". Mae ein cyfarfodydd yn yr Eisteddfod yn parhau i fynd o nerth i nerth ac maent yn cael eu gweld yn gynyddol fel cyfle pwysig i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol Cymraeg eu hiaith gael dweud eu dweud ar faterion sy'n effeithio arnynt.
"Gwyddom bod nifer sylweddol o droseddau casineb homoffobaidd nad ydynt yn cael eu hadrodd wrth yr heddlu, sy'n fater difrifol y mae'n rhaid ei wynebu. Rhaid i bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol deimlo'n hyderus bod troseddau casineb homoffobaidd yn cael eu cymeryd o ddifrif er mwyn iddynt deimlo'n ddigon hyderus i adrodd amdanynt. Croesawn drafodaeth fywiog ac addysgiadol ar y mater hwn."
Bydd yr actorion Rhys Miles Thomas a Valmai Jones hefyd yn perfformio dramodig fer wedi'i seilio ar brofiadau gwirioneddol o ddioddef troseddau casineb homoffobaidd.
Cynhelir y cyfarfod ar ddydd Sadwrn 4 Awst ym Mhafiliwn Sbardun rhwng 12:30pm a 1:30pm.
E-bost at cymru@stonewallcymru.org.uk neu ffoniwch 029 2023 7744 neu 01248 370082.
Sylwadau am y dudalen