Cynhaliwyd ail seremoni Wobrwyo Stonewall heno, dan arweiniad y cyflwynydd teledu Anthony Crank. Roedd nifer o sêr yn bresennol yn y digwyddiad, a noddwyd eleni eto gan Barclays, ac roedd yn gyfle i ddathlu cyfraniadau cadarnhaol unigolion a sefydliadau - hoyw ac fel arall - i fywydau pobl hoyw ledled Prydain yn 2007.
Yr enillwyr oedd:
Cyhoeddiad y Flwyddyn The Guardian Am sylw cefnogol i lawer o faterion yn ymwneud â lesbiaid a hoywon yn ystod y 12 mis diwethaf mewn adrannau newyddion ac eitemau nodwedd
Gwleidydd y Flwyddyn Y Gwir Anrhydeddus Alan Johnson AS, Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, ac Angela Eagle AS, Gweinidog yn y Trysorlys, yn rhannu'r wobr. Am eu gwaith ar Reoliadau Cyfeiriadedd Rhywiol 2007
Awdur y Flwyddyn Val McDermid Am y nofel ias a chyffro boblogaidd a gyhoeddwyd ganddi eleni, Beneath the Bleeding. Mae llyfr arall o'i heiddo, Wire in the Blood, wedi'i addasu'n gyfres lwyddiannus ar ITV
Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Nigel Owens Y dyfarnwr rygbi rhyngwladol, sy'n gwbl agored ynglyn â'i rywioldeb, a ddyfarnodd ei gêm gyntaf yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc yn Hydref 2007
Dallbleidiwr y Flwyddyn Esgob Henffordd, Anthony Priddis Daeth Tribiwnlys Cyflogaeth i'r casgliad ym mis Gorffennaf fod yr Esgob wedi gwahaniaethu'n anghyfreithlon yn erbyn gweithiwr ieuenctid hoyw o Ogledd Cymru, John Reaney, drwy dynnu swydd a oedd wedi'i chynnig iddo yn ôl ar ôl ei fychanu â chwestiynau personol
Newyddiadurwr y Flwyddyn Philip Hensher, The Independent Am roi sylw rheolaidd i faterion hoyw mewn colofn hynod graff a di-flewyn-ar-dafod, sy'n pigo cydwybod
Darllediad y Flwyddyn Hollyoaks, Channel 4 Am ddangos cymaint o gydymdeimlad ac argyhoeddiad wrth ymdrin â'r stori anodd ac emosiynol am berthynas yn datblygu rhwng dau lanc ifanc yn eu harddegau, John Paul a Craig
Grwp Cymunedol y Flwyddyn Stonewall a Barclays Switsfwrdd Lesbiaid a Hoywon Llundain Am ddarparu cefnogaeth a chyngor i filoedd o bobl hoyw. Yn ennill siec o £5000 yn cael ei chyflwyno gan Is-gadeirydd grwp Barclays, Gary Hoffman
Diddanwr y Flwyddyn Dan Gillespie Sells Prif ganwr y grwp hynod lwyddiannus, The Feeling. Dyma'r grwp sydd wedi'i glywed amlaf ar sianeli radio'r DU yn ystod y 12 mis diwethaf, ac mae'r prif ganwr yn gwbl agored ynglyn â'i rywioldeb.
Arwr y Flwyddyn Antony Grey Cyn Ysgrifennydd Cymdeithas Diwygio'r Gyfraith Gyfunrhywiol. Arweiniodd yr ymgyrch a arweiniodd at ddad-droseddoli cyfunrhywiaeth yn rhannol am y tro cyntaf yn 1967
Ymhlith yr enwebeion eraill am Wobrau Stonewall 2007 a oedd â chysylltiadau Cymreig roedd Russell T Davies, awdur y gyfres Doctor Who, sy'n cael ei ffilmio yng Nghaerdydd a Paul Burston o Time Out, y naill a'r llall ar y rhestr fer am Awdur y Flwyddyn. Enwebwyd Peter Hain, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau ac AS dros Gastell-nedd, fel Gwleidydd y Flwyddyn.
Cynhaliwyd y seremoni Wobrwyo yn Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain o flaen cynulleidfa o 400 o bobl. Dewiswyd yr enillwyr gan banel o feirniaid yn cynnwys Clare Balding, Matt Lucas, Nicky Campbell a Paul Gambaccini. Dyfarnwyd tair o'r gwobrau - i'r Arwr, y Bwli a Grwp Cymunedol y Flwyddyn - ar sail pleidleisiau gan 6,000 o gefnogwyr Stonewall ledled Prydain.
Yn ôl Liz Morgan, Cyfarwyddwraig Stonewall Cymru: 'Rydyn ni'n falch iawn bod y Dyfarnwr Rygbi Rhyngwladol, Nigel Owens, sydd hefyd yn Gymro Cymraeg, wedi ennill teitl Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn. Mae'n anfon neges glir i bobl lesbiaidd a hoyw ym maes chwaraeon gan ddangos y gallwch fod yn wahanol a dal i gyflawni'ch potensial mewn amgylchedd sydd, yn draddodiadol, yn un cyfunrhywiol a gwrol.
Sylwadau am y dudalen