Mae hyfforddiant cyfryngau a sgiliau lobïo ymysg y gweithdai cyffrous sy'n cael eu cynnig yng Nghynhadledd Flynyddol Stonewall Cymru ym mis Ebrill.
Bydd y Gynhadledd, o'r enw 'Ymgysylltwch! Dylanwadu ar Bobl Mewn Awdurdod ac Ymgyrchu Dros Newid', yn ymrymuso pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol i wneud safiad yn eu cymunedau lleol a hyrwyddo hawliau hoyw.
Meddai Liz Morgan, Cyfarwyddydd Stonewall Cymru "Mae agwedd wahanol i'n Cynhadledd eleni. Rydym yn cynnig sgiliau cyffrous ond ymarferol y gellir eu defnyddio i wneud gwahaniaeth yn ein cymunedau. P'un ai dynnu sylw at faterion hoyw yn y wasg leol neu lobïo eich Cynghorydd neu Aelod Cynulliad lleol, bydd y gynhadledd yn galluogi pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol i ddylanwadu ar benderfyniadau a sicrhau bod ein cymunedau yn gynhwysol i bawb."
Croesawir hefyd swyddogion Polisi a Chydraddoldeb a sefydliadau sydd yn ceisio sicrhau bod eu gwasanaethau yn gynhwysol i bawb.
Ychwanegodd Liz Morgan "Bydd y Gynhadledd yn darparu dealltwriaeth i sefydliadau am y ffordd orau o ymgysylltu gyda'r gymuned LHD, ac yn edrych ar ffyrdd o ddefnyddio'r profiadau hyn er mwyn gwella'r gwasanaethau y maent yn eu cynnig."
Cynhelir Cynhadledd Flynyddol Stonewall Cymru dydd Sadwrn 19 Ebrill, yng Ngregynog, Powys, rhwng 12.00 a 5.30pm.
I gadw'ch lle anfonwch e-bost at Cymru@stonewallcymru.org.uk neu ewch at www.stonewallcymru.org.uk/cynhadledd2008
Sylwadau am y dudalen