Bydd Stonewall Cymru yn edrych ar bryderon cynyddol bod pobl hoyw yn parhau i ofni dioddef camwahaniaethu wrth ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus - er gwaethaf deddfwriaeth ddiweddar i'w hamddiffyn - yn eu Cynhadledd Flynyddol dydd Sadwrn.
Bydd y Gynhadledd yn trafod canfyddiadau arolwg diweddar YouGov o bobl lesbiaidd a hoyw, a gomisiynwyd gan Stonewall, a holodd sampl o 1,658 yn yr arolwg cenedlaethol ystadegol sylweddol cyntaf i gael ei gynnal i brofiadau bywyd y 3.6 miliwn o bobl hoyw ym Mhrydain. Holwyd pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) am eu profiadau eu hunain a'u disgwyliadau am gamwahaniaethu o ran gwaith, addysg, gwleidyddiaeth, trosedd a'r system cyfiawnder troseddol, tai a gofal iechyd.
Mae'r canfyddiadau ar gyfer Cymru yn dangos bod:
89% o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn disgwyl dioddef camwahaniaethu pe byddent yn ymgeisio i fod yn llywodraethwr ysgol.
Un o bob tri yng Nghymru yn disgwyl cael eu trin yn waeth na pherson heterorywiol wrth wneud cwyn am drosedd casineb homoffobaidd wrth yr heddlu
43% yn meddwl y byddai'r heddlu yn eu trin yn waeth na pherson heterorywiol, o achos eu cyfeiriadedd rhywiol, pe byddent yn cyflawni trosedd neu dan amheuaeth o gyflawni trosedd
Cyhoeddwyd yr arolwg mewn adroddiad newydd, Serves You Right, gyda chefnogaeth Accenture, sydd hefyd yn gwneud ystod o argymhellion yn cynnig ffyrdd syml o wella darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer pobl lesbiaidd a hoyw.
Meddai Liz Morgan, Cyfarwyddydd Stonewall Cymru: 'Bydd y Gynhadledd yn edrych ar y pryderon bod nifer o bobl lesbiaidd a hoyw yn parhau i ddisgwyl cael eu trin yn annheg o ddydd i ddydd. Byddwn yn gwthio cyrff cyhoeddus, a sefydliadau eraill, i ymgysylltu gyda chymuned hoyw Cymru, i wrando ar eu profiadau a defnyddio'r profiadau hynny i wneud y gwasanaethau y maent yn eu cynnig yn gwbl gynhwysol.
"Gobeithiwn y bydd darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn sylweddoli nad yw'n cymryd llawer o ymdrech i wneud gwahaniaeth aruthrol. A dweud y gwir, mae Serves You Right yn canfod bod cyrff cyhoeddus a chwmnïau sy'n gwneud ymdrech gadarnhaol i hyrwyddo triniaeth deg yn medru gwella'u henw da a denu cwsmeriaid newydd."
Ychwanegodd Liz Morgan: "Mae hefyd yn hanfodol bod pobl lesbiaidd a hoyw yn codi llais am eu profiadau personol er mwyn cynorthwyo i hyrwyddo newid. Dyna'r rheswm dros baratoi cyfres o weithdai dyfeisgar ac areithiau ysgogol a fydd yn grymuso pobl hoyw i wneud cyfraniad cadarnhaol i'w cymunedau drwy ymgyrchu dros newid."
Gelwir Cynhadledd Flynyddol Stonewall Cymru yn Ymgysylltwch: Dylanwadu ar Bobl Mewn Awdurdod ac Ymgyrchu dros Newid. Cynhelir yng Ngregynog, Powys ar ddydd Sadwrn 19 Ebrill. Ymysg y gweithdai mae hyfforddiant cyfryngau, ymgyrchu lleol a sgiliau pendantrwydd.
Sylwadau am y dudalen