Cynhelir yr Etholiadau Cyngor Lleol ar ddydd Iau 1af Mai ac mae'n bwysig i chi ddefnyddio'ch pleidlais yn ddoeth.
Mae Stonewall Cymru yn annog etholwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru i bleidleisio dros ymgeisydd a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Meddai Liz Morgan, Cyfarwyddydd Stonewall Cymru, "Mae'r etholiadau cyngor lleol yn ffordd dda o godi'ch llais am y materion sy'n bwysig i chi. Heriwch eich ymgeiswyr lleol a gofynnwch iddynt beth y gallant ei wneud dros bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol yn eich cymuned. Gall eich pleidlais wneud gwahaniaeth."
Am awgrymiadau ar sut i lobïo eich Cynghorydd neu Aelod Cynulliad lleol ewch at Lobiwch eich AC ac AS lleol
Sylwadau am y dudalen