Mae hanner y bobl lesbiaidd a hoyw yng Nghymru yn ofni erledigaeth homoffobaidd yn sgil portread y cyfryngau, yn ôl adroddiad diweddaraf Stonewall Cymru, sy'n edrych ar y portread o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) yn y cyfryngau yng Nghymru.
Mae adroddiad cyfryngau Gwyliwch Allan yn dyfynnu canfyddiadau arolwg Eich Cyfrif a'ch Cynnwys Stonewall Cymru, sy'n dangos bod:
Meddai Liz Morgan, Cyfarwyddydd Stonewall Cymru: "Rydym yn bryderus iawn bod nifer fawr o bobl lesbiaidd a hoyw yng Nghymru yn ofni camdriniaeth homoffobaidd o achos portreadau negyddol o fywyd hoyw a materion hoyw yn y cyfryngau yng Nghymru.
"Mae'r cyfryngau yng Nghymru yn chwarae rhan enfawr wrth ddylanwadu ar farn gyhoeddus tuag at y gymuned lesbiaidd a hoyw. Mae'n rhy rhwydd cyfri iaith homoffobaidd fel cellwair diniwed, neu ragdybiaethau ystrydebol fel hwyl ddiddrwg, ond mewn gwirionedd mae'n brifo ac yn medru annog erledigaeth o bobl lesbiaidd a hoyw."
Mae adroddiad Gwyliwch Allan yn uchafbwynt prosiect cyfryngau 3 blynedd, a ariannwyd gan Comic Relief, ac a sefydlwyd i fonitro'r cyfryngau yng Nghymru ac ymateb i'r adroddiadau homoffobaidd neu negyddol am bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol. Roedd y prosiect hefyd yn ceisio hyrwyddo straeon newyddion hoyw cadarnhaol.
Yn ystod y prosiect roedd gofyn i bobl lesbiaidd a hoyw fonitro'r cyfryngau ac anfon unrhyw enghreifftiau o erthyglau, adroddiadau newyddion a rhaglenni teledu a oedd yn edrych ar faterion hoyw. Yna gofynnwyd iddynt am eu sylwadau o ran pam bod yr enghreifftiau hyn yn bortread cadarnhaol neu negyddol.
Y cwynion mwyaf cyffredin oedd: y defnydd o'r gair 'gay' fel term sarhaus gan bobl enwog proffil uchel ("you're so gay"), ystrydebau sarhaus, a'r diffyg enghreifftiau cadarnhaol o bobl lesbiaidd neu hoyw ar y teledu. Beirniadwyd rhaglenni megis Life on Mars a Top Gear y BBC a The Chris Moyles Show Radio 1 gan gymuned hoyw Cymru yn sgil eu defnydd o iaith wrth-hoyw. Roedd nifer o bobl yn poeni am yr effaith ar bobl ifanc argraffadwy.
Ychwanegodd Liz Morgan, "Fe wyddom o'n gwaith yn y byd addysg mai iaith gwrth-hoyw yw'r ffurf fwyaf cyffredin o fwlio homoffobaidd mewn ysgolion. Mae cysylltiad cryf rhwng defnydd difeddwl o iaith homoffobaidd ar y radio a'r teledu a'r defnydd eang o'r un termau wrth fwlio plant mewn ysgolion.
"Drwy sicrhau yn syml bod allbwn y cyfryngau yn rhydd rhag sylwadau gwrth hoyw, gall y cyfryngau yng Nghymru chwarae rhan fawr wrth drawsnewid bywydau disgyblion ifanc lesbiaidd a hoyw sy'n rhy ofnus i fynd i'r ysgol rhag ofn dioddef ymosodiadau corfforol neu ar lafar."
Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu bod gan deledu Rhwydwaith lawer i'w ddysgu gan wneuthurwyr rhaglenni rhanbarthol yng Nghymru o ran cymeriadau hoyw realistig mewn cyfresi drama. Canmolwyd drama BBC One Wales, Belonging, y gyfres Gymraeg Caerdydd, opera sebon S4C Pobol y Cwm ac, wrth gwrs Doctor Who a Torchwood, am eu straeon hoyw realistig a chymeriadau hoyw amlwg.
"Rydym yn falch bod Cymru yn arwain y ffordd gyda chymeriadau realistig, gweladwy lesbiaidd a hoyw ar y teledu." meddai Liz Morgan. "Ond ymddengys bod y gwaith da sy'n digwydd yng Nghymru yn cael ei danseilio gan gynrychiolaeth wan ar deledu rhwydwaith a sylwadau homoffobaidd sy'n cael eu gwneud gan enwogion proffil uchel, ac mae hynny'n egluro pam fod cymaint o bobl hoyw yn bryderus am effaith portreadau negyddol yn y cyfryngau ar eu bywydau bob dydd."
Mae'r adroddiad ar gael ar Gwyliwch Allan
Sylwadau am y dudalen