Mae Stonewall wedi cyhoeddi rhestr o 100 Cyflogwr Gorau 2009, yn nodi rhai o gyflogwyr gorau Cymru ar gyfer staff hoyw. Mae'r Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle blynyddol yn cynnwys pum sefydliad o Gymru yn y 100 uchaf.
Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru sy'n cael eu henwi fel cyflogwr gorau Cymru, gyda Heddlu Gogledd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Heddlu Gwent yn dilyn.
Seiliwyd y Mynegai ar ystod o ddangosyddion allweddol a oedd eleni yn cynnwys yr arolwg mwyaf erioed o weithwyr lesbiaidd a hoyw, gyda bron i 7,000 o gyfranogwyr. Dangoswyd yn gyson bod y lefelau uchaf o foddhad staff yn y sefydliadau uchaf yn y Mynegai. Roedd staff hefyd yn fwy tebygol o ddatgelu eu cyfeiriadedd rhywiol mewn ymarferion monitro yn y sefydliadau ar y brig.
Meddai Liz Morgan, Cyfarwyddydd Stonewall Cymru:
"Eleni roedd safon yr ymgeiswyr yn uwch nag erioed. Mae mwy o gyflogwyr Cymreig yn y 100 Uchaf nag erioed o'r blaen, gan brofi eu hymrwymiad at amrywiaeth yn y gweithle".
Meddai Cyfarwyddwr Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Chris Mills:
"Rwy'n falch iawn o glywed bod Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru bellach yn flaenaf ymysg cyflogwyr Cymru ym Mynegai Cydraddoldeb Stonewall. Mae'r llwyddiant hwn yn dangos y gwerth a roddir ar gydweithio gyda'n staff i greu gwell gweithle".
Meddai Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gogledd Cymru, Ian Shannon:
"Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi ymrwymo at sicrhau bod pob cymuned yng Ngogledd Cymru yn derbyn gwasanaeth Heddlu teg a chyfiawn. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad at y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu. Rwy'n benderfynol o sicrhau bod pobl LHD sy'n byw, gweithio, neu'n ymweld gyda Gogledd Cymru yn medru teimlo'n ddiogel, a gweld Heddlu Gogledd Cymru fel cyflogwr o ddewis."
Graddiwyd cyflogwyr yn unol gyda meini prawf yn amrywio o weithredu polisi cydraddoldeb effeithiol i arddangos sut y maent yn ymgysylltu gyda'u staff, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth lesbiaidd a hoyw. Mae'r Mynegai yn asesu gweithredoedd, megis gweithgaredd recriwtio a mentora, yn ogystal â pholisi.
Ychwanegodd Liz Morgan:
"Rydym yn falch iawn bod y 5 cyflogwr hoyw-gyfeillgar gorau yng Nghymru oll yn aelodau o raglen arfer da Stonewall Cymru, Hyrwyddwyr Amrywiaeth. Gobeithiwn y bydd sefydliadau eraill yng Nghymru yn dilyn eu hesiampl wrth weithio gyda Stonewall Cymru a rhaglen Hyrwyddwyr Amrywiaeth".
Cliciwch yma I lwytho i lawr yr Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle
Cliciwch yma am fwy o gwybodaeth am Hyrwyddwyr Amrywiaeth Cymru
Sylwadau am y dudalen