Mi godais heddiw ma's o'm ty
A'm cwd a'm pastwn gyda mi,
A dyma'm neges ar eich traws,
Sef llanw'm cwd â bara a chaws
Wedi dod dros y Dolig? Wedi dathlu dyfodiad y Flwyddyn Newydd? Wedi golchi'r dwylo o'r gorffennol ac yn ymbaratoi at y pethau newydd a ddaw ym 2006?
Pam lai cychwyn y Flwyddyn Newydd drwy Gerdded Calan dros Stonewall Cymru?
Bydd nifer o Arweinyddion yn cynnal teithiau mewn gwahanol lefydd ar draws Cymru, felly rhowch ddec punt i Stonewall Cymru ac ymunwch gydag eraill i fynd am dro byr yn eich ardal chi.
Bydd hwn yn gyfle gwych i ddathlu cyflawniadau Stonewall Cymru dros y blynyddoedd a'r newidiadau yn safon eich bywyd y mae gwaith Stonewall Cymru wedi esgor arnynt. Er enghraifft:
diddymu Adran 28
cyfraith ar gyfer y gweithle i atal camwahaniaethu ar sail eich cyfeiriadedd rhywiol
cofrestru partneriaethau sifil i roi hawliau cyfreithiol i berthynasau lesbiaidd a hoyw.
A bydd yn gyfle i chi ymuno yn y frwydr a chefnogi gwaith Stonewall Cymru a gwneud y cyflawniadau hyn yn realaeth ar gyfer pob un ohonom dros Gymru benbaladr drwy gyfrwng yr ymgyrchoedd hyn:
Addysg i Bawb i atal bwlio homoffobaidd yn ein hysgolion
Pencampyddion Amrywiaeth i helpu cyflogyddion i ddatblygu gweithle cefnogol ac amrywiol
Fforymau Lesbiaid, Hoywon a Deurywolion ar draws Cymru sy'n gweithio gyda mudiadau yn y prif ffrwd i atal camwahaniaethu mewn gwasanaethau.
Trefnir teithiau yn y Gogledd, y Canolbarth, y De-orllewin a'r De-ddwyrain a bydd aelodau lleol o Gyngor Stonewall Cymru yn eu harwain ond byddwn yn croesawu'n eiddgar grwpiau cerdded a theuluoedd a chyfeillion sydd am drefnu eu digwyddiadau Cerdded Calan dros Stonewall Cymru eu hunain. Gall Stonewall Cymru roi cyhoeddusrwydd i'ch digwyddiad a darparu tystysgrifau unigol o ddiolch wedi'r daith.
I ymuno yn yr hwyl cysylltwch gyda Swyddfeydd Stonewall Cymru rwan ar
Cymru@stonewall.org.uk neu drwy ffonio 01248 370082 neu 02920 237744.
Sylwadau am y dudalen