Mae Stonewall Cymru yn lansio fersiwn dwyieithog o'r Addroddiad Ysgol ar 28 Mawrth 2009 yn Venue Cymru, Llandudno. Yr adroddiad yw’r arolwg mwyaf erioed o bobl ifanc hoyw ym Mhrydain, ac mae’n cyflwyno darlun ysgytwol o’r raddfa o fwlio homoffobaidd gan ddisgyblion, ac yn waeth fyth, gan staff ysgol.
Ymysg y canfyddiadau allweddol:
Bydd yr adroddiad dwyieithog hwn, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn cael ei lansio yn Nigwyddiad Blynyddol Stonewall Cymru, Addysg: Ein Hawl, a fydd yn edrych ar faterion lesbiaidd, hoyw a deurywiol ym myd addysg yn ei ystyr ehangaf, o ysgolion uwchradd i ddysgu ieithoedd. Yn y digwyddiad bydd John Sam Jones, awdur adnabyddus ac ymgynghorydd ABCh Sir Ddinbych, yn annerch y cynadleddwyr. Hefyd bydd cyfle i glywed am brofiadau personol llywodraethwyr, myfyrwyr a darlithwyr lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
Meddai’r Gweinidog Addysg Jane Hutt: “Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi lansiad ‘Yr Adroddiad Ysgol’, sy’n pwysleisio swyddogaeth hanfodol ysgolion wrth atal ac ymateb i fwlio homoffobaidd, ar dir yr ysgol ond hefyd yn y gymuned ehangach.
“Mae taclo bwlio yn her enfawr ond yn un mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn benderfynol o’i hwynebu. Rydym yn parhau i weithio gyda Stonewall Cymru i ddatblygu canllawiau ar daclo bwlio homoffobaidd mewn ysgolion, a fydd yn cryfhau ein dulliau o herio’r broblem.”
Meddai Rhian Keyse, Swyddog Addysg ac Ieuenctid Stonewall Cymru: “Rydym yn falch iawn o lansio’r Adroddiad Ysgol dwyieithog heddiw. Bydd yr adroddiad ysgytwol hwn yn cael ei ddosbarthu i bob ysgol uwchradd yng Nghymru, a dylai ddeffro pawb sy’n gweithio ym myd addysg. Mae bwlio homoffobaidd yn un math o fwlio y mae gormod o ysgolion yn parhau i’w oddef, hyd yn oed chwe blynedd ar ôl diddymu Adran 28 a fu’n atal ysgolion rhag ei daclo cyhyd”.
Cliciwch yma am lawrlwytho'r Adroddiad Ysgol
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Rhian Keyse, Swyddog Addysg ac Ieuenctid ar 02920 237744, neu drwy ebost rhian.keyse@stonewallcymru.org.uk
Yn ystod oriau swyddfa ffoniwch:
029 20 237744
Os oes gennych ymholiad brys ar ran y cyfryngau tu allan i oriau swyddfa, ffoniwch 07779 359 704
Os ydych yn newyddiadurwr ac yn dymuno ychwanegu eich enw at restr cysylltiadau cyfryngau Stonewall Cymru, cysylltwch gydag cymru@
stonewallcymru.org.uk
Sylwadau am y dudalen