Prosiect Lluniau Stonewall Cymru

Creu cronfa luniau o fywyd lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru

Sawl gwaith ydych chi wedi cwyno nad ydych yn gweld lluniau o bobl LHD mewn cylchgronau, papurau a chyhoeddusrwydd – neu ddim ond yr un bobl dro ar ôl tro?

Dyma’ch cyfle CHI i wneud rhywbeth am y peth.

Rydym yn gwahodd pobl o bob cwr o Gymru i dynnu lluniau sy’n cynrychioli pob agwedd o fywyd lesbiaidd, hoyw a deurywiol yng Nghymru.

Bydd y lluniau hyn yn rhan o gronfa lluniau amrywiaeth arlein i gynorthwyo’r GIG, heddlu, Cynghorau Sir a mudiadau eraill i ddefnyddio delweddau amrywiol ar eu posteri ac mewn cyhoeddiadau eraill.
Ers nifer o flynyddoedd, rydym wedi bod yn ymgyrchu i sicrhau fod y cyfryngau yn adlewyrchu’r amrywiaeth o bobl sy’n LHD yng Nghymru, ac nid yn portreadu ystrydebau yn unig fel cynrychiolaeth o bawb sy’n LHD.
Rydym hefyd wedi bod yn annog darparwyr gwasanaethau o feysydd iechyd, tai, diogelwch cymunedol, addysg ac eraill, yn ogystal â gweithleoedd, i ddefnyddio delweddau cynhwysol o bobl LHD yn eu cyhoeddusrwydd, posteri a chyhoeddiadau i ddangos eu hymrwymiad at gynhwysiad LHD.
Dywed nifer o fudiadau y byddent yn hoffi defnyddio lluniau o gyplau cyfunrywiol, ond nad oes rhai ar gael. Rydym bellach yn casglu lluniau o bob math i gynorthwyo mudiadau i ddod o hyd i luniau a’u cynnwys.
Bydd y lluniau ar gael yn rhad ac am ddim i fudiadau.

E-bostiwch eich lluniau at: eleanor.hicks@stonewallcymru.org.uk gyda ffurflen caniatâd cyhoeddi (er mwyn i ni wybod eich bod yn caniatáu iddynt gael eu defnyddio). Neu dewch â’ch lluniau ar CD neu ffon gof at stondin Stonewall Cymru yn Balchder Abertawe, Mardi Gras LHDT Caerdydd ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Sicrhewch eu bod yn ddigon mawr fel bod modd eu hatgynhyrchu mewn papurau newydd neu gylchgronau ayyb.

Bydd ein gwirfoddolwyr hefyd yn tynnu lluniau yn y digwyddiadau, felly byddwch yn barod i wenu!

Cliciwch yma i lawrlwytho ffurflen caniatâd cyhoeddi lluniau.

 


(ni fydd yn cael ei arddangos)

(i ymddangos ar y dudalen hon)

(i ymddangos ar y dudalen hon)
 

E-gylchlythyr cofrestru


Banc gwybodaeth