Monitro’r Cyfryngau - Saesneg
Lleoliad
Unrhyw le – yn y cartref
Ymrwymiad
Oriau hyblyg (yn ddelfrydol, lleiafswm o 4 awr yr wythnos) am 3 mis
Cyfrifoldebau allweddol
Bydd Gwirfoddolwyr monitro’r cyfryngau yn datblygu cronfa o waith ymchwil cyfryngau i herio agweddau negyddol tuag at bobl LHD yng Nghymru.
- Monitro cylchgronau, papurau newydd a’r wasg arlein er mwyn dod o hyd i straeon am bobl a materion LHD, a’u casglu.
- Neu monitro sianeli teledu neu radio i ddod o hyd i raglenni a straeon am bobl a materion LHD, a’u casglu drwy roi crynodebau byr o’r rhaglenni.
- Clustnodi cyhoeddiadau, gwefannau, sianeli teledu a radio sy’n edrych ar faterion LHD ac ymateb i straeon perthnasol.
Sgiliau a chymhwysedd
- Cyfathrebu’n dda ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Gwybodaeth sylfaenol am faterion LHD a’r cyfryngau yng Nghymru
- Cymhwysedd sylfaenol prosesu geiriau, e-bost a’r rhyngrwyd
- Byddai gwybodaeth sylfaenol am y wasg yng Nghymru yn ddymunol.
Yr hyn y gallwn ei gynnig
- Hyfforddiant
- Cefnogaeth/mentora 1-1
Dyddiad cau
16/03/2012
Cyswllt
Ryan Jenkins
Swyddog Allgymorth Gwirfoddli
ryan.jenkins@stonewallcymru.org.uk
Stonewall Cymru, Transport House, 1 Heol y Gadeirlan, Caerdydd, CF11 9SB
Sylwadau am y dudalen